Trifia
Sawl rhywogaeth o chwilod sydd yn y DU?
Rwyt ti’n gywir.
Da iawn!
Hmmm…dyw hwnna ddim yn gywir.
Mae’r chwilod milwr coch cyffredin yn chwilod maint canolig a chul sydd i’w gweld yn aml ar flodau â strwythur agored, fel llygaid y dydd a gorthyfail, yn yr haf. Gellir eu gweld ar laswelltir, ar hyd gwrychoedd, ac mewn coetir parciau a gerddi. Mae’r oedolion yn bwydo ar lyslau, a hefyd yn bwyta paill a neithdar. Mae’r larfâu yn bwyta anifeiliaid di-asgwrn cefn sy’n byw ar y llawr, fel gwlithod a malwod ac maent yn byw wrth waelodion glaswelltau hir.
Mae gan y chwilen filwr goch gyffredin gorff cul, petryalog a theimlyddion gweddol hir. Mae’n oren-goch llachar gyda marciau du ger blaenau plisg yr adenydd. Mae tua 40 o rywogaethau o chwilod milwr yn y DU, gyda chyfuniadau lliw du, coch ac oren amrywiol.