Trifia
Sawl rhywogaeth o adar sy'n nythu mewn gwrychoedd?
Rwyt ti’n gywir.
Da iawn!
Hmmm…dyw hwnna ddim yn gywir.
Mae gwrychoedd yn ddewis gwych i greu ffin gan eu bod yn creu cynefinoedd bwydo a bridio gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae gwrychoedd yn galluogi bywyd gwyllt i symud o le i le ond maent hefyd yn lle da i ysglyfaethwyr sy’n hela pryfed a chreaduriaid di-asgwrn-cefn.
Maent yn rhwystrau gwynt naturiol, gan greu lloches sy’n arbennig o bwysig ar gyfer ieir bach yr haf. Maent hefyd yn creu mannau lle mae cysgod sy’n cynyddu’r amrywiaeth o gynefinoedd sydd ar gael mewn man gwyrdd.