Trifia
Nid yw gwiwerod llwyd yn gynhenid i'r wlad hon. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhywogaeth ............... ?
Rwyt ti’n gywir.
Da iawn!
Hmmm…dyw hwnna ddim yn gywir.
Ffaith
Mae gwiwerod llwyd yn hollysyddion. Maen nhw’n bwyta bron unrhyw beth: cnau, hadau, blagur, ffwng, ffrwythau, wyau a bwyd adar mewn porthwyr adar. Byddan nhw hyd yn oed yn rhwygo ac yn bwyta rhisgl oddi ar goed.
Maen nhw’n hoff iawn o’r sycamorwydden ond weithiau gall eu difrod i’r rhisgl ladd y goeden.
Mae gwiwerod llwyd yn acrobats hynod hyblyg ac yn defnyddio eu cynffon i helpu i afael wrth ganghennau ac i gadw balans.