Trifia
Pryd cafodd Parc Bute ei agor i'r cyhoedd?
Rwyt ti’n gywir.
Da iawn!
Hmmm…dyw hwnna ddim yn gywir.

Oeddech chi’n gwybod?
Daeth y teulu Bute â phŵer a ffyniant i Gaerdydd (1776-1947 AD), a’i throi o fod yn ardal gysglyd i un o’r porthladdoedd allforio glo mwyaf yn y byd.
Roedd Andrew Pettigrew yn Brif Arddwr i drydydd Ardalydd Bute rhwng 1873 a 1901.
Plannodd Pettigrew lwyni a choed prin o bob cwr o’r byd sy’n rhan o’n gardd goed a’n casgliad o goed arbenigol enwog heddiw.
Ym 1947 rhoddwyd y Castell a’r tiroedd gan Bumed Ardalydd Bute i bobl Caerdydd a chafodd y tir ei droi’n barc cyhoeddus a agorwyd ar 15 Ebrill 1949.
Mae Parc Bute wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd ar ôl ei agor – gan gynnwys sinema awyr agored, rasys, cyngherddau roc a phop, eisteddfod a llwybr goleuadau Nadolig ysblennydd.
Edrychwch y tu ôl i chi, yn 2018, i ddathlu 70 mlynedd o agor Parc Bute i’r cyhoedd gosodwyd cerflun. Mae 2 law yn dal pyst sy’n cynnwys 19 deilen wahanol (mae’r Gingko yn ymddangos ddwywaith).