Gofalu am goed ym Mharciau Caerdydd

Cyhoeddwyd 7th Feb, 2020

Mae Parc Bute yn dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ac yn arboretwm o bwys cenedlaethol, helpwch ni i’w ddiogelu. Rydym wedi darparu’r canllawiau canlynol i’ch helpu i wneud hyn.

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i gyflwyno dirwyon i Drefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i’r coed o ganlyniad i’w digwyddiad. Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy ddilyn y canllawiau hyn.

Dylech friffio staff eich safle ar y wybodaeth hon a dylai’r daflen hon fod ar gael er gwybodaeth ar y safle.

  • Mae gorchudd coeden yn rhoi syniad o hyd a lled ardal ei gwreiddiau. Bydd cywasgu’r parth hwn yn raddol yn mygu’r goeden wrth i bocedi aer gael eu gwasgu allan o’r pridd. Am y rheswm hwn, ni chewch barcio unrhyw gerbydau na deunyddiau trwm eraill o dan orchudd unrhyw goeden. Os ydych yn dymuno gwneud cais i gael storio o dan orchudd coed i gynorthwyo’ch digwyddiad, rhaid trafod hyn o flaen llaw gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau a fydd yn penderfynu fesul achos.
  • Er mwyn osgoi tyllu prif wreiddyn y gellid ei hollti neu ei heintio ac achosi i goeden ddirywio, nid ddylid gosod unrhyw byst yn y ddaear o dan unrhyw orchudd coeden.
  • Am yr un rheswm  ni chewch dorri ffosydd, cloddio na newid lefelau’r ddaear o dan orchudd unrhyw goed.
  • Er mwyn osgoi difrodi ein coed ac atal heintio cunrhyw glwyf coeden, nid chaniateir tocio coed na llwyni. Yn gyffredinol, bydd Cyngor Caerdydd yn gwrthod unrhyw gais o’r fath, ond mewn achosion eithriadol bydd yn caniatáu i berson awdurdodedig wneud hyn. Os oes angen tocio coed i hwyluso eich digwyddiad, e.e. canghennau crog isel sy’n rhwystro cerbydau nwyddau trwm, rhaid i chi ofyn am hyn o flaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau’r Parciau.
  • Er mwyn osgoi llygru’r parth gwreiddiau, ni fydd unrhyw gemegau na thanwydd ac ati yn cael eu pentyrru na’u storio o dan orchudd unrhyw goeden. Rhaid defnyddio hambyrddau diferu o dan eneraduron.  
  • Er mwyn osgoi llosgi neu lygru’r parth gwreiddiau, ni chaniateir gosod pibellau nwy llosg gwresogyddion, generaduron ac ati o dan orchudd unrhyw goeden. Bydd pob pibell nwy llosg yn cael ei chyfeirio oddi wrth orchuddion coed.
  • Er mwyn osgoi difrod tân ac osgoi llygru’r parth gwreiddiau, ni chaniateir coginio na thanau o dan orchudd unrhyw goeden.
  • I barchu ein coed ac osgoi eu difrodi, rhaid i chi beidio ag atodi unrhyw beth at goeden. Ni ddylech hoelio na gosod posteri â phinnau ar goed na rhwymo posteri o amgylch coed â llinyn. Os ydych yn dymuno atodi unrhyw beth at goeden neu grogi rhywbeth oddi arni, e.e. goleuadau, arwyddion, addurniadau ac ati, rhaid trafod a chytuno ar hyn ymlaen llaw gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Parciau.
  • Os yw eich digwyddiad yn gofyn am symud cerbydau neu offer wrth ymyl coeden, efallai y bydd angen defnyddio mesurau diogelu coed lleol i wahanu’r goeden/coed yn gorfforol oddi wrth y perygl. Gweler yr enghraifft isod.

Bydd unrhyw fesurau amddiffynnol o amgylch coed yn parhau i fod yn eu lle drwy gydol y digwyddiad ac ni chânt eu tynnu na’u hadleoli. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan Oruchwylydd y Safle.

Mae coed aeddfed a phrin yn bethau na ellir rhoi rhai eraill yn eu lle, a rhaid gofalu amdanynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn safleoedd arboretwm fel Parc Bute a Pharc y Rhath. Cyfeiriwch at ganllawiau penodol ar safleoedd lleoliadau i weld unrhyw gyfyngiadau lleol ychwanegol.

Canllawiau ar bob digwyddiad