Baneri Heras

Cyhoeddwyd 16th Apr, 2020

Mae baneri Heras ar gael i’w codi yn ardal eich digwyddiad ym Mharc Bute yn rhad ac am ddim.

Gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwella ymddangosiad safleoedd digwyddiadau a hefyd i sgrinio ardaloedd ‘cefn tŷ’.

Mae tua 70 ar gael.

Mae’r baneri wedi’u hatodi at baneli ffensys heras safonol gyda chysylltiadau cebl safonol.

Os ydych yn dymuno defnyddio’r baneri heras, trafodwch mewn da bryd gyda Swyddog Digwyddiadau Parc Bute. Cânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser yn eich amserlen i’ch staff godi’r baneri a’u tynnu wedyn.

Rhaid eu dychwelyd yn lân, yn sych ac wedi’u plygu.

Canllawiau ar bob digwyddiad