Trifia
Yw pob gwenynen yn pigo?
Rwyt ti’n gywir.
Da iawn!
Hmmm…dyw hwnna ddim yn gywir.
Mae’r saerwenynen goch yn wenynen fach gyffredin sy’n nythu mewn coesynnau planhigion gwag, mewn tyllau mewn clogwyni, ac ym morter adfeiliedig hen adeiladau. Mae’n wenynen unig felly, ar ôl paru, mae pob menyw yn adeiladu ei nyth ei hun; mae’n leinio pob ‘cell’ â mwd a phaill ac yn gosod un wy ym mhob un nes bod y twll yn llawn.
Mae’r larfâu yn deor ac yn datblygu, yn chwileru yn yr hydref ac yn cysgu dros y gaeaf. Mae’r saerwenynen goch ar yr adain o ddiwedd mis Mawrth, ac yn bwydo ar ddim ond paill a neithdar.
Yn hytrach na chasglu paill a’i gludo ar eu coesau fel llawer o wenyn eraill, mae saerwenyn coch benywaidd (ynghyd â rhywogaethau Osmia eraill) yn casglu paill mewn gwallt o dan eu habdomen, mewn strwythur a elwir yn frwsh paill.
Pan fydd y brwsh paill yn llawn, gall gwaelod y wenynen edrych yn ddisglair a llachar iawn, yn dibynnu ar liw’r paill a gasgla.