{"id":9632,"date":"2022-12-01T10:53:25","date_gmt":"2022-12-01T10:53:25","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/?p=9632"},"modified":"2023-02-20T15:38:58","modified_gmt":"2023-02-20T15:38:58","slug":"plannu-nol-yn-well","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/plannu-nol-yn-well\/","title":{"rendered":"<strong>Parc Bute yn &#8216;Plannu &#8216;N\u00f4l yn Well&#8217; gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd<\/strong>"},"content":{"rendered":"\n<p>Plannwyd y coed cyntaf mewn perllan gymunedol newydd ym Mharc Bute Caerdydd heddiw (30 Tachwedd) wrth i gynlluniau ddatblygu yn sgil ymosodiad fandaliaeth ddinistriol ar y parc ddechrau dwyn ffrwyth.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd dwsinau o goed eu dinistrio gan fandaliaid, a gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i&#8217;r parc ei wneud ym mis Medi\u2019r llynedd, ond o&#8217;r diwrnod tywyll hwnnw yn hanes y parc daeth ymgyrch ariannu torfol a arweiniwyd gan y gymuned a fydd, ynghyd \u00e2 chyllid rhaglen plannu coed torfol Coed Caerdydd y cyngor, yn gweld dwy goeden yn cael eu plannu yn y parc ar gyfer pob un goeden a ddinistriwyd gan fandaliaid.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:&nbsp; &#8220;Calon werdd y ddinas yw Parc Bute ac roedd yr ymosodiad wir yn teimlo fel cyllell yn y galon i bawb sy&#8217;n cymryd rhan yno, y t\u00eem sy&#8217;n gweithio yno, y gwirfoddolwyr sy&#8217;n ein helpu ni i edrych ar ei \u00f4l, y busnesau sy&#8217;n gweithredu o&#8217;r parc, a dwi&#8217;n si\u0175r i&#8217;r bobl sy&#8217;n gwneud dros 2.5m o ymweliadau \u00e2&#8217;r parc bob blwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Cafodd mwy na 20,000 o goed eu plannu yng Nghaerdydd yn ystod y tymor plannu diwethaf, a&#8217;r tymor hwn nod ein prosiect Coed Caerdydd yw plannu hyd yn oed yn fwy, ond dwi ddim yn si\u0175r y bydd unrhyw rai\u2019n teimlo&#8217;n fwy arwyddocaol na&#8217;r rhai a blannwyd heddiw.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"467\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9624\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-700x467.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-250x167.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-768x513.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-320x214.jpg 320w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-480x320.jpg 480w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-800x534.jpg 800w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4572-scaled.jpg 1400w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Melissa Boothman, Bute Park Community Orchard; Paul Barrett, Friends of Bute Park; Christopher Engle, Coed Caerdydd; Cllr Jennifer Burke-Davies, Cabinet Member for Culture, Parks &amp; Events<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>&#8220;Mae&#8217;n rhaid diolch yn fawr iawn i\u2019r gymuned, eu hymateb gyda&#8217;r ariannu torfol, a&#8217;r gofal gwirioneddol maen nhw&#8217;n ei ddangos i&#8217;r parc, mae wedi bod yn wych. Mae&#8217;r arian maen nhw wedi&#8217;i godi i amnewid y coed a gollwyd, gyda nifer ohonynt wedi&#8217;u plannu gan deuluoedd er cof am eu hanwyliaid, wedi bod yn hanfodol.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd dau leoliad perllan: prif un i&#8217;r gogledd o gaeau chwarae\u2019r Gored Ddu, ac un llai gerllaw&#8217;r &#8216;Lawnt y Berllan&#8217; hanesyddol lle cafodd y coed ffrwythau treftadaeth cyntaf, gan gynnwys afal, eirin gwyrdd, eirin, gellyg, a cheirios eu plannu heddiw.<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth y syniad am berllan gymunedol allan o ddigwyddiad &#8216;Adennill y Parc&#8217; a gynhaliwyd yn y dyddiau ar \u00f4l yr ymosodiad. Wedi&#8217;i drefnu gan y pensaer lleol Den Benham, ochr yn ochr \u00e2 Melissa Boothman, y mae ei Chaffi Gardd Gudd yn eistedd wrth galon y parc, arweiniodd y digwyddiad hefyd at Ms Boothman yn sefydlu ymgyrch ariannu torfol a gododd dros \u00a35,000 tuag at goed newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth siarad ar ran y Berllan Gymunedol ar gyfer Gr\u0175p Llywio Parc Bute, dywedodd Melissa Boothman:&nbsp; &#8220;Mae ein cymuned yn anhygoel.&nbsp; Roedd am fynd gymaint ymhellach na dim ond helpu i gymryd lle a gwneud yn dda&#8217;r difrod a wnaed.&nbsp; Mae pobl yn credu ym Mharc Bute fel &#8220;parc y bobl&#8221; ac mae&#8217;r plannu heddiw yn ddechrau symbol byw o obaith a gwydnwch.&nbsp; Mae&#8217;r weledigaeth, o berllan a ddyluniwyd gan y gymuned, wedi&#8217;i phlannu ganddyn nhw a&#8217;i mwynhau gan bawb, wedi dechrau.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae disgwyl i goed pellach ar safle mwy\u2019r berllan gael eu plannu cyn diwedd y tymor plannu, sy&#8217;n para tan wanwyn y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r gwaith o ailblannu&#8217;r coed coffa a ddinistriwyd yn yr ymosodiad hefyd wedi dechrau.&nbsp; Dywedodd Nirdeep Kaur, a gollodd y goeden goffa a blannwyd er cof am ei mam i&#8217;r fandaliaeth:&nbsp; &#8220;Cafodd Mam ei geni yma yng Nghaerdydd, ond fuodd hi farw yn India, ac roedd hi&#8217;n cael ei amlosgi felly doedd dim carreg fedd na dim, roedd y goeden yn mynd i fod &#8216;ei lle hi.&#8217;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"467\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9625\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-700x467.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-250x167.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-768x513.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-320x214.jpg 320w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-480x320.jpg 480w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-800x534.jpg 800w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4573-scaled.jpg 1400w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Caption: Gwirfoddolwyr Parc Bute ac un o Arddwyr Parciau Caerdydd yn plannu un o blith 100 o goed.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>&#8220;Roedd y teulu cyfan wedi cyfrannu at godi arian ar ei gyfer, felly pan ges i wybod am y fandaliaeth roeddwn wedi fy nigalonni, a chymaint o gywilydd hefyd, roeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n na\u00eff yn meddwl y byddai yno am flynyddoedd. Doeddwn i ddim yn gallu dweud wrth neb.&nbsp; Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny ein bod ni&#8217;n mynd i&#8217;w ailblannu.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Roeddwn i mor hapus ac yn teimlo rhyddhad pan wnes i ddarganfod bod yr arian wedi cael ei godi ac roedd yn cael ei ailblannu, mae&#8217;n golygu cymaint i mi.&#8221; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/IMG_4574-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9622\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, gydag aelodau a D\u00eem Parc Bute, teuluoedd, ac elusennau a gollodd goed oherwydd y fandaliaeth, gydag aelodau Cyfeillion Newydd Parc Bute a phrosiect y Berllan Gymunedol.<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>I gael gwybodaeth am Gyfeillion Parc Bute ac am sut i gymryd rhan yn y gwaith o ddiogelu a gwella&#8217;r parc, ewch i: <a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/cyfeillion-parc-bute\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">bute-park.com\/cy\/cyfeillion-parc-bute<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>I gael gwybodaeth am Goed Caerdydd, ewch i <a href=\"https:\/\/www.outdoorcardiff.com\/cy\/bioamrywiaeth\/coed-caerdydd\/\">www.outdoorcardiff.com<\/a> neu i @CoedCaerdydd ar Facebook \/ Twitter.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Plannwyd y coed cyntaf mewn perllan gymunedol newydd ym Mharc Bute Caerdydd heddiw (30 Tachwedd) wrth i gynlluniau ddatblygu yn sgil ymosodiad fandaliaeth ddinistriol ar y parc ddechrau dwyn ffrwyth. Cafodd dwsinau o goed eu dinistrio gan fandaliaid, a gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i&#8217;r parc ei wneud ym mis Medi\u2019r llynedd, ond o&#8217;r&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/plannu-nol-yn-well\/\">View <strong>Parc Bute yn &#8216;Plannu &#8216;N\u00f4l yn Well&#8217; gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd<\/strong><\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":9614,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7,6],"tags":[],"class_list":["post-9632","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9632","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9632"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9632\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9797,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9632\/revisions\/9797"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9614"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9632"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9632"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9632"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}