{"id":9589,"date":"2022-11-23T13:47:33","date_gmt":"2022-11-23T13:47:33","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/teamoftheyear\/"},"modified":"2022-12-06T11:19:34","modified_gmt":"2022-12-06T11:19:34","slug":"tim-y-flwyddyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/tim-y-flwyddyn\/","title":{"rendered":"Coroni T\u00eem Parc Bute y gorau yn y DU"},"content":{"rendered":"\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><strong><strong>Mae cyflogeion Parc Bute Caerdydd wedi cael eu coroni fel \u2018T\u00eem y Flwyddyn\u2019 yng ngwobrau \u2018Goreuon y Goreuon yn y DU\u2019 y Faner Werdd eleni.<\/strong><\/strong><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae gwobrau \u2018Goreuon y Goreuon yn y DU\u2019 y Faner Werdd yn cydnabod timau ac unigolion eithriadol sydd yn gweithio\u2019n ddiflino i wneud eu parciau a\u2019u mannau gwyrdd yn fannau rhagorol i bawb eu mwynhau.<\/p>\n\n\n\n<p>Derbyniodd T\u00eem Parc Bute wobr \u2018T\u00eem y Flwyddyn\u2019 yn y <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=2n4aJeyWulE\">seremoni <\/a>rithiol ar ddydd Mawrth 15 Tachwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch wylio disgrifiad y categori, y rhai sydd ar y rhestr fer a\u2019r eiliad y caiff y wobr ei datgelu drwy glicio ar y ddolen uchod a mynd 18:48 i mewn i\u2019r fideo.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"467\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9583\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-700x467.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-250x167.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-768x513.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-320x214.jpg 320w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-480x320.jpg 480w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-800x534.jpg 800w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-7-scaled.jpg 1400w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ers 2010, mae\u2019r t\u00eem ymroddedig ym Mharc Bute wedi trawsnewid gofod nad oedd yn cael ei ddefnyddio llawer yn ganolbwynt gwyrdd bywiog yng Nghaerdydd. Gyda\u2019r ymwelwyr blynyddol yn cynyddu o filiwn yn 2010 i ryw 2.5 miliwn erbyn hyn, mae\u2019r t\u00eem sy\u2019n gyfrifol am ofalu am Barc Bute yn cael eu cymeradwyo am eu gwaith caled.<\/p>\n\n\n\n<p>O gyfres gynyddol o ddigwyddiadau poblogaidd, i raglenni gwirfoddoli ac addysg ffyniannus, mae \u2018T\u00eem Parc Bute\u2019 wedi dangos lefel o fenter o\u2019r radd flaenaf sydd o fudd i\u2019r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf heriau Covid-19 ac ymosodiad sylweddol gan fandaliaid yn y parc y llynedd, mae\u2019r t\u00eem yn fwy penderfynol nag erioed i roi\u2019r gair ar led bod y parc yn berchen i bobl Caerdydd ac yn lle i bawb allu mwynhau yn ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<p>Gosodwyd camer\u00e2u Teledu Cylch Cyfyng i wella canfod ac atal troseddau a gosodwyd perllan gymunedol a rhodfa newydd o goed ceirios yn y parc, ddaeth i\u2019r amlwg yn benodol mewn ymateb i\u2019r ymosodiad gan fandaliaid, ac mae hyn yn dangos lefel y gefnogaeth sydd i\u2019r parc yn y gymuned. Yn y pen draw, bydd dwy goeden yn cael eu plannu am bob un gafodd ei dinistrio yn yr ymosodiad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Julia Sas, Rheolwr Parc Bute:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cMae hwn yn gydnabyddiaeth ragorol i d\u00eem Parc Bute: ein gwirfoddolwyr anhygoel, gr\u0175p cyfeillion newydd, y t\u00eem ymroddedig o staff sy\u2019n gweithio mor galed ac yn ymfalch\u00efo yn eu gwaith yn gofalu ar \u00f4l y parc, a chymuned ehangach Parc Bute sy\u2019n gofalu amdano. Mae\u2019r Parc wedi wynebu cyfnod anodd yn ddiweddar, felly rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, Aelod o\u2019r Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cSiaradwch \u00e2\u2019r t\u00eem ac fe wnewch chi ddeall yn gyflym gymaint y maent yn ei feddwl o Barc Bute, mae\u2019n fwy na swydd iddynt, ac mae hynny\u2019n dod i\u2019r amlwg wrth i chi gerdded o amgylch tir y Faner Werdd. Gobeithio, gyda mwy o brosiectau cyffrous fel y berllan gymunedol, g\u0175yl olau Nadolig ym Mharc Bute yn dychwelyd, a gwelliannau a wnaed yn bosibl trwy\u2019r cynllun cyfrannu at y prosiect gwella, gallwn annog mwy o bobl i ymweld \u00e2 chalon werdd y ddinas.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru\u2019n Daclus:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cGyda 2,208 o barciau a mannau gwyrdd yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn y DU eleni, mae ennill \u2018T\u00eem y Flwyddyn y DU\u2019 yn gyflawniad mawr ac yn arwydd o waith caled a phenderfynoldeb T\u00eem Parc Bute.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yn dorcalonnus clywed am y fandaliaeth ofnadwy ym Mharc Bute yr amser yma y llynedd, ond rydym wrth ein bodd bod y parc wedi dod yn \u00f4l yn gryfach nag erioed gyda llawer o ddatblygiadau cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<p>Diolch am eich ymdrechion diflino yn adfer calon werdd Dinas Caerdydd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"467\" data-id=\"9582\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9582\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-700x467.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-250x167.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-768x513.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-320x214.jpg 320w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-480x320.jpg 480w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-800x534.jpg 800w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-6-scaled.jpg 1400w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"467\" data-id=\"9581\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9581\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-700x467.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-250x167.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-768x513.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-320x214.jpg 320w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-480x320.jpg 480w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-800x534.jpg 800w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-3-scaled.jpg 1400w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"467\" data-id=\"9580\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-700x467.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-9580\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-700x467.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-250x167.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-768x513.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-320x214.jpg 320w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-480x320.jpg 480w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-800x534.jpg 800w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/2022.11.18-Bute-Park-Team-of-the-Year-Andrew-Jeffrey-2-scaled.jpg 1400w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Cafodd Cymru lwyddiant anhygoel yn y gwobrau rhithiol eleni gyda thros hanner gwobrau \u2018Goreuon y Goreuon yn y DU\u2019 yn mynd i enillwyr o Gymru:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cyfraniad Eithriadol gan Aelod Etholedig<\/strong> \u2013 Andrea Mearns o Sir y Fflint am arwain trawsnewidiad Parc Bener Werdd Bryn y Beili yn yr Wyddgrug.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Menter Iechyd Orau<\/strong> \u2013 Prosiect Tyfu\u2019n Dda ar gyfer gwella iechyd a lles cannoedd o bobl leol trwy arddio cymunedol therapiwtig yn eu dwy safle Baner Werdd yng Nghaerdydd.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>T\u00eem Gwirfoddoli\u2019r Flwyddyn <\/strong>\u2013 Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned am waith anhygoel y gwirfoddolwyr garddio yn trawsnewid pentwr o falurion yn ofod naturiol hyfryd yn y ganolfan, sydd wedi ennill statws y Faner Werdd eleni.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Addasu i Newid Hinsawdd <\/strong>\u2013 Yr Hwb yn Bwyd Bendigedig Porthmadog. Mae\u2019r Hwb yn adeilad dim carbon hardd o fewn gardd gymunedol y Faner Werdd wedi ei wneud yn bennaf o eco-frics.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>T\u00eem y Flwyddyn, Staff Parc <\/strong>\u2013 T\u00eem Parc Bute am ymdrechion diflino t\u00eem anhygoel Parc Bute yn adfer y parc Baner Werdd \u2013 calon werdd Dinas Caerdydd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gwobr y Faner Werdd yw\u2019r safon ansawdd rhyngwladol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd a chaiff ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru\u2019n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae cyflogeion Parc Bute Caerdydd wedi cael eu coroni fel \u2018T\u00eem y Flwyddyn\u2019 yng ngwobrau \u2018Goreuon y Goreuon yn y DU\u2019 y Faner Werdd eleni.","protected":false},"author":4,"featured_media":9580,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7,6],"tags":[],"class_list":["post-9589","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9589","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9589"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9589\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9658,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9589\/revisions\/9658"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9580"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9589"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9589"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9589"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}