{"id":6441,"date":"2021-04-19T09:12:00","date_gmt":"2021-04-19T09:12:00","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/table-tennis\/"},"modified":"2021-04-19T08:26:05","modified_gmt":"2021-04-19T08:26:05","slug":"table-tennis","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/table-tennis\/","title":{"rendered":"Daw Tenis Bwrdd i Barc Bute er cof am gyn-fyfyriwr o Gaerdydd a fu farw&#8217;n sydyn, yn 29 oed"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae bwrdd tenis bwrdd awyr agored wedi&#8217;i osod ym Mharc Bute er cof am gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd a fu farw&#8217;n sydyn yn ei gwsg pan oedd ond yn 29 oed, ar \u00f4l mynd i&#8217;r gwely gyda thwymyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd y bwrdd, sydd y tu allan i Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute, gan ffrindiau a theulu Michael Julian, a welodd ei gariad at y gamp ef yn cystadlu ar lefel genedlaethol mewn twrnameintiau yn Awstralia, Seland Newydd, Sbaen a&#8217;r gwledydd hyn.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image is-style-rounded\"><figure class=\"alignright size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"700\" height=\"525\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-700x525.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6431\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-700x525.jpg 700w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-250x188.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-768x576.jpg 768w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-120x90.jpg 120w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/TTT-Cym-scaled.jpg 1333w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Roedd MJ, fel yr oedd yn adnabyddus i&#8217;w ffrindiau, wedi treulio tair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg yn ogystal \u00e2 bod yn gapten ar a hyfforddi t\u00eem Tenis Bwrdd y Brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er ei fod yn byw gyda&#8217;i deulu yn Seland Newydd ar adeg ei farwolaeth ym mis Gorffennaf 2019, mae Caerdydd yn parhau i fod yn ganolbwynt i lawer o&#8217;i ffrindiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth siarad am gariad ei mab at denis bwrdd, dwedodd mam MJ, Jill Stanley: &#8220;Wrth dyfu lan, rhoddodd Michael gynnig ar lawer o gampau, ond ddaeth e ddim o hyd i unrhyw beth yr oedd yn dda iawn yn ei wneud nac yn ei fwynhau. Yna un diwrnod pan oedd tua 10 neu 11, daeth adref a dweud bod rhywun wedi ei wahodd i fynd draw i glwb tennis bwrdd.&nbsp; Dyma ddechrau diddordeb angerddol gydol oes iddo, ac roedd yn chwaraewr hynod eithriadol.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Dwedodd Michael Irving, ffrind o gyfnod MJ yng Nghaerdydd: &#8220;Mae pawb oedd yn adnabod MJ yn cofio ei gariad at denis bwrdd. Yn y brifysgol, fyddai dim yn ei rwystro rhag chwarae twrnament, hyd yn oed noson allan drom y diwrnod cynt.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Mae&#8217;r ymroddiad hwn i&#8217;r gamp yn adlewyrchu ei fywyd y tu allan iddo &#8211; unigolyn ffyrnig o ddeallus a phenderfynol a lewyrchodd ym myd busnes ac a garai athroniaeth, y celfyddydau a&#8217;i ffrindiau. Roedd yn byw bywyd i&#8217;r eithaf. Nid oedd neb tebyg iddo ac roedd yn rhaid i chi gwrdd ag ef i&#8217;w adnabod.<\/p>\n\n\n\n<p>&#8220;Rydym yn cyflwyno&#8217;r bwrdd er cof amdano fel na chaiff fyth ei anghofio yn y lle y mwynhaodd llawer ohonom yr amseroedd gorau gydag e.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: &#8220;Hoffwn ddiolch i ffrindiau a theulu Michael am y rhodd garedig hon, yn amlwg yn ogystal \u00e2 bod yn ddyn ifanc talentog, roedd hefyd yn hynod boblogaidd. Mae&#8217;r bwrdd yn ychwanegiad gwych i un o barciau gorau Caerdydd ac rwy&#8217;n si\u0175r y bydd yn dod \u00e2 llawer o bleser i ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae batiau a pheli tenis bwrdd ar gael i&#8217;w benthyg o Gaffi&#8217;r Ardd Gudd ym Mharc Bute.<\/strong> Mae angen blaendal.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Table tennis bats and balls are available to loan from the Secret Garden Caf\u00e9 in Bute Park. A deposit is required.","protected":false},"author":4,"featured_media":6432,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[33],"class_list":["post-6441","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-table-tennis-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6441","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6441"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6441\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6978,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6441\/revisions\/6978"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6432"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6441"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6441"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6441"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}