{"id":14044,"date":"2026-06-08T08:07:08","date_gmt":"2026-06-08T08:07:08","guid":{"rendered":"https:\/\/bute-park.com\/travel-advice-for-blackweir-live-concerts-in-bute-park-05-06-26\/"},"modified":"2026-06-08T08:10:46","modified_gmt":"2026-06-08T08:10:46","slug":"travel-advice-for-blackweir-live-concerts-in-bute-park-05-06-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/travel-advice-for-blackweir-live-concerts-in-bute-park-05-06-26\/","title":{"rendered":"Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd (05\/06\/2026)"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cyfres o gyngherddau yn cael eu cynnal ym Mharc Bute yr haf hwn \u2013 fel rhan o Blackweir Live ac ar gyfer pob cyngerdd, bydd ffyrdd ar gau ar hyd rhan o Heol y Gogledd a\u2019r strydoedd cyfagos rhwng 4pm a hanner nos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y cyngherddau canlynol yn cael eu cynnal yn Blackweir Live yr haf hwn:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydd Mercher 24Mehefin &#8211; The Cure<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydd Gwener 26 Mehefin &#8211; Teddy Swimms<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydd Mawrth 30 Mehefin \u2013 Lewis Capaldi<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydd Mercher 1 Gorffennaf \u2013 Lewis Capaldi<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf \u2013 Pit Bull.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni fydd cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn, ond bydd parcio digwyddiadau ar gael yng Ngerddi Sophia a&#8217;r Ganolfan Ddinesig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae disgwyl i draffordd yr M4 a&#8217;r rhwydwaith priffyrdd fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn \u2013 felly cynghorir yn gryf i bawb sy&#8217;n mynd i\u2019r digwyddiadau hyn i gynllunio ymlaen llaw a mynd i mewn i Gaerdydd a&#8217;r lleoliad yn gynnar.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a\u2019r cefnffyrdd, ewch i&nbsp;<a href=\"https:\/\/traffic.wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wefan Traffig Cymru<\/a>, neu @TraffigCymruD ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/twitter.com\/trafficwaless\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">X<\/a>&nbsp;a&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/TrafficWalesS\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Facebook<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd man codi\/gollwng tacsis a lle parcio beiciau ar gael yn y Ganolfan Ddinesig. Mae gyrwyr tacsis yn cael gwybod na chaniateir iddynt ollwng na chodi teithwyr ar Heol y Gogledd, gan y byddant yn achosi tagfeydd diangen a rhwystr i fodurwyr eraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am gyngherddau Blackweir Live ar gael yma:<a href=\"https:\/\/www.newyddioncaerdydd.co.uk\/releases\/w66\/37303.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.newyddioncaerdydd.co.uk\/releases\/w66\/37303.html<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Cau ffyrdd<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer y cyngherddau hyn, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4pm a hanner nos i hwyluso&#8217;r digwyddiadau hyn.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Stryd y Castell gyfan, o\u2019r gyffordd \u00e2 Heol y Porth<\/li>\n\n\n\n<li>Heol y Dug, Ffordd y Brenin, ar eu hyd<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u00b7&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;Heol y Gogledd o&#8217;r gyffordd \u00e2 Heol Colum i lawr i Boulevard De Nantes; a Boulevard De Nantes i&#8217;r gyffordd \u00e2 Phlas y Parc. (Bydd bysus yn cael mynediad trwy Blas y Parc \/ Boulevard De Nantes ac i Heol T\u0177&#8217;r Brodyr i gael mynediad i Heol y Brodyr Llwydion).<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o Heol y Gadeirlan drwodd i&#8217;r gyffordd \u00e2 Heol y Porth gyda mynediad i Heol y Porth yn cael ei ganiat\u00e1u.\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Canolfan Ddinesig<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd mynediad i ran o&#8217;r Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli drwy gydol y dydd o 7am.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma&#8217;r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa&#8217;r Brenin Edward VII, Rhodfa&#8217;r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi&#8217;r Orsedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y troad i&#8217;r dde o Heol Colum i mewn i Heol Corbett yn cael ei atal hefyd dros yr amseroedd cau ffyrdd i ganiat\u00e1u a rheoli mynediad i drigolion \/ busnesau oddi ar Heol Corbett.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Tacsis<\/u><\/strong><strong><u><\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd man codi a gollwng tacsis pwrpasol ar gael yn y Ganolfan Ddinesig wrth yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae gyrwyr tacsi yn cael gwybod na chaniateir iddynt godi na gollwng cwsmeriaid ar Heol y Gogledd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Trenau<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd&nbsp;<strong>Rheilffordd y Great Western (GWR)<\/strong>&nbsp;yn ychwanegu cerbydau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i ddychwelyd i Fryste yn dilyn cyngherddau Blackweir Live.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar \u00f4l y cyngherddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylai&#8217;r rhai sy&#8217;n teithio\u2019n bellach wirio gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu tr\u00ean olaf adref, yn&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.gwr.com\/check\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">www.gwr.com\/check<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&nbsp;<strong>Trafnidiaeth Cymru (TrC)&nbsp;<\/strong>wedi darparu capasiti ychwanegol lle bo&#8217;n bosibl ar lwybrau i ac o Gaerdydd ar gyfer holl ddigwyddiadau Blackweir, gyda gwasanaethau hwyrach wedi&#8217;u trefnu i ddarparu ar gyfer mynychwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O 10pm bydd gorsaf Cathays a phont yr orsaf yn cau &#8211; bydd teithwyr yn cael eu cyfeirio naill ai i orsaf Caerdydd Canolog neu orsaf Heol y Frenhines Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd system giwio ar waith i deithwyr yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd. Gall cwsmeriaid y Cymoedd ddefnyddio&#8217;r naill orsaf neu&#8217;r llall a bydd manylion ciwio yn cael eu rhannu cyn bo hir.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Anogir teithwyr yn gryf i flaengynllunio a chaniat\u00e1u digon o amser ar gyfer eu taith, a phrynu tocynnau rheilffordd ymlaen llaw. Oherwydd bod sawl digwyddiad yn gwrthdaro yng nghanol y ddinas ar 4 Gorffennaf, disgwylir i wasanaethau rheilffyrdd fod yn brysurach nag arfer.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dylai teithwyr sy&#8217;n defnyddio dull talu wrth fynd dapio i mewn yn eu gorsaf ymadael ac yna tapio allan drwy\u2019r un dull talu. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i helpu i dapio i mewn ac allan.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn parhau i fod ar agor, bydd gwyriadau ffyrdd lleol ar waith a dylai teithwyr edrych ar wefannau gweithredwyr unigol am fanylion llawn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gwybodaeth lawn yn cael ei rhannu ar wefan TrC a sianeli cyfryngau cymdeithasol &#8211;&nbsp;<a href=\"https:\/\/tfw.wales\/places\/events\/blackweir-live\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Blackweir Live | Trafnidiaeth Cymru<\/a><a target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Cyfleusterau Parcio a Theithio<\/u><\/strong><strong><u><\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Does dim cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig<\/u><\/strong><strong><u>&nbsp;(Ceir a Choetsys)<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua\u2019r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i\u2019r ganolfan ddinesig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cost: \u00a320 yn daladwy ar y diwrnod am gar a \u00a330 i goets \u2013 mae talu \u00e2 cherdyn nawr ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am 12 hanner nos. &nbsp;<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gerddi Sophia(ceir)<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, G\u00e2t 2).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyrraedd yno: Gadewch ar gyffordd 32 yr M4<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cost: \u00a320 i geir a \u00a330 i goetsys &#8211; mae talu \u00e2 cherdyn nawr ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sylwer:Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy\u2019n cael eu gadael yn y maes parcio ar \u00f4l yr amser cau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Bysus<\/u><\/strong><strong><u><\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd mynediad ar gyfer bysus a thacsis yn cael ei gynnal ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, Stryd y Castell, Heol y Dug a Ffordd y Brenin, yn ogystal \u00e2 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Gadeirlan a Heol y Porth. Mae hyn er mwyn helpu torfeydd i adael yr ardal yn ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Bysus lleol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.stagecoachbus.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiffbus.com\/principality-stadium\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.cardiffbus.com\/principality-stadium<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am wasanaethau NAT, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.natgroup.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.natgroup.co.uk\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>National Express:<\/strong><br><br>Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.&nbsp; &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Allwch chi feicio neu gerdded?<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y beicffyrdd a&#8217;r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond bydd Beicffordd Heol y Gogledd yn cael ei dargyfeirio i hwyluso&#8217;r gwaith o osod a datgymalu ar gyfer y digwyddiad. Ar ddiwrnodau cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr amgen tebyg i\u2019r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd lle parcio beiciau ar gael yn y Ganolfan Ddinesig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Parcio i Siopwyr<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><u>Parcio i Bobl Anabl<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynghorir gyrwyr anabl i barcio yn y Ganolfan Ddinesig yn yr ardal parcio digwyddiad bwrpasol \u00e2 th\u00e2l, fodd bynnag, mae parcio Bathodyn Glas ar gael ar sail y cyntaf i&#8217;r felin ar hyd Plas y Parc \/ Maes yr Amgueddfa.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bydd cyfres o gyngherddau yn cael eu cynnal ym Mharc Bute yr haf hwn \u2013 fel rhan o Blackweir Live ac ar gyfer pob cyngerdd, bydd ffyrdd ar gau ar hyd rhan o Heol y Gogledd a\u2019r strydoedd cyfagos rhwng 4pm a hanner nos. Bydd y cyngherddau canlynol yn cael eu cynnal yn Blackweir Live&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/travel-advice-for-blackweir-live-concerts-in-bute-park-05-06-26\/\">View Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd (05\/06\/2026)<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":12368,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-14044","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14044","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14044"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14044\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":14045,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14044\/revisions\/14045"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12368"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14044"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14044"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14044"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}