{"id":14039,"date":"2026-06-08T08:00:26","date_gmt":"2026-06-08T08:00:26","guid":{"rendered":"https:\/\/bute-park.com\/bw4-6-26\/"},"modified":"2026-06-08T08:03:31","modified_gmt":"2026-06-08T08:03:31","slug":"bw4-6-26","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/bw4-6-26\/","title":{"rendered":"Diweddariad Holi ac Ateb Byw Blackweir Live (4.6.26)"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nod yr Holi ac Ateb hwn yw ateb cwestiynau cyffredin am y cyngherddau Blackweir Live sydd ar ddod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall preswylwyr sydd ag unrhyw gwestiynau neu bryderon ychwanegol gysylltu \u00e2 ni am fwy o wybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am fanylion cysylltu \u00e2 ni, ewch i:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiff.gov.uk\/ENG\/Home\/Contact-us\/General-enquiries\/Pages\/default.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><u>https:\/\/www.cardiff.gov.uk\/CYM\/Hafan\/Cysylltu-ar-Cyngor\/Ymholiadau-cyffredinol\/Pages\/default.aspx<\/u><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd cyngherddau yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd. Bydd pum cyngerdd yn cael eu cynnal yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sioeau &#8216;Blackweir Live&#8217; yn cynnwys: The Cure (24 Mehefin), Teddy Swims (26 Mehefin), Lewis Capaldi (30 Mehefin ac 1 Gorffennaf) a Pitbull (4 Gorffennaf).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cerddoriaeth fyw yn ganolog i\u2019n gweledigaeth i Gaerdydd a bydd y digwyddiadau yn helpu i gadarnhau statws Caerdydd ymhlith artistiaid mawr fel cyrchfan sy\u2019n rhaid chwarae ynddi, gan ddod \u00e2 manteision economaidd sylweddol i&#8217;r ddinas ac incwm hanfodol i&#8217;r Cyngor i\u2019n galluogi i barhau i fuddsoddi ym mharciau\u2019r ddinas a chyflwyno ein gwaith fel Caerdydd Dinas Gerdd i gefnogi a datblygu ecosystem gerddoriaeth y ddinas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A yw&#8217;r digwyddiadau hyn wedi cael caniat\u00e2d cynllunio i fynd ymlaen?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ydyn. Rhoddwyd caniat\u00e2d cynllunio i ddigwyddiadau gael eu cynnal yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu mewn cyfarfod o&#8217;r Pwyllgor Cynllunio ddydd Iau 4 Mehefin, 2026.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut oedd Cyngor Caerdydd yn gallu gwneud cais am ganiat\u00e2d cynllunio a gwneud y penderfyniad ynghylch rhoi\u2019r caniat\u00e2d cynllunio. Onid yw hynny&#8217;n wrthdaro buddiannau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n rhaid i Gyngor Caerdydd weithio o fewn cyfreithiau, polis\u00efau a fframweithiau cynllunio. Lle mae\u2019r Cyngor yn bwriadu defnyddio tir, neu ymgymryd \u00e2 gwaith datblygu, sy\u2019n gofyn am ganiat\u00e2d cynllunio ffurfiol, rhaid iddo wneud cais ffurfiol i&#8217;r &#8216;Awdurdod Cynllunio Lleol&#8217; am ganiat\u00e2d o dan Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mai Cyngor Caerdydd yw&#8217;r &#8216;Awdurdod Cynllunio Lleol&#8217; hefyd, mae&#8217;r Gyfraith yn caniat\u00e1u iddo fod yn ymgeisydd a phenderfynwr. Mae prosesau priodol ar waith i sicrhau priodoldeb.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y cais \u2013 fel y byddai ar gyfer unrhyw ddatblygiad arall \u2013 yn ei r\u00f4l reoleiddiol fel yr &#8216;Awdurdod Cynllunio Lleol&#8217;. Mae hyn yn golygu dilyn yr holl brosesau priodol, gan gynnwys cyhoeddi&#8217;r cais, a dod i gasgliad ar rinweddau&#8217;r datblygiad arfaethedig mewn adroddiad Swyddog, yn union fel y byddai ar gyfer unrhyw ymgeisydd arall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhaid adrodd am geisiadau mawr a gyflwynir gan y Cyngor, fel y cais hwn ar gyfer Caeau\u2019r Gored Ddu, i&#8217;r Pwyllgor Cynllunio er mwyn i Aelodau&#8217;r Pwyllgor wneud y penderfyniad terfynol. Mae hyn yn sicrhau bod pob penderfyniad yn destun craffu cyhoeddus priodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r pwyllgor cynllunio yn cynnwys Cynghorwyr etholedig o bob rhan o&#8217;r sbectrwm gwleidyddol ac mae&#8217;n wleidyddol rydd i benderfynu, yn seiliedig ar dystiolaeth wrthrychol, a ddylai datblygiad fynd yn ei flaen ai peidio. Cynghorir y Cynghorwyr hyn gan swyddogion cynllunio hyfforddedig a chymwys sy&#8217;n deall cyfraith cynllunio a gofynion ar gyfer datblygiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l ystyried adroddiad y Swyddog, a thrafod y mater yn y Pwyllgor Cynllunio ar 4 Mehefin 2026, penderfynodd yr aelodau i roi caniat\u00e2d cynllunio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir herio pob penderfyniad a wneir gan y Cyngor, yn ei r\u00f4l fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, drwy wneud cais i&#8217;r Uchel Lys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd y cyhoedd yn dal i allu cael mynediad i Barc Bute yn ystod y cyngherddau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd. Bydd cyfran helaeth (dros 80%) o 130 erw Parc Bute yn parhau i fod ar gael i&#8217;r cyhoedd trwy gydol y cyfnod hwn.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd mynediad cyhoeddus i Gaeau\u2019r Gored Ddu yn cael ei gyfyngu yn ystod y cyngherddau ac am gyfnod byr y naill ochr a\u2019r llall i ganiat\u00e1u gwaith gosod a datgymalu. Bydd ardaloedd glaswelltog gan gynnwys Cae Cooper, Lawnt y Berllan a&#8217;r ardal o amgylch Cylch Cerrig yr Orsedd yn parhau i fod ar agor.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd manylion llawn yr holl newidiadau mynediad yn cael eu nodi&#8217;n glir o fewn y parc ac ar gael ar wefan Parc Bute.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mannau gwyrdd cyhoeddus sylweddol hefyd ar gael yn agos at ofod digwyddiadau y Gored Ddu. Mae 141.60 o erwau o ofod gwyrdd cyhoeddus ar gael yng Nghaeau Pontcanna gerllaw gyda 68.89 erw arall ar gael i&#8217;r cyhoedd yng Nghaeau Llandaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Am ba hyd y bydd mynediad wedi ei atal i Gaeau\u2019r Gored Ddu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae disgwyl i&#8217;r gwaith adeiladu ar gyfer y digwyddiad ddechrau ar 8 Mehefin 2026. Ar hyn o bryd, disgwylir i&#8217;r gwaith datgymalu gael ei gwblhau erbyn 15 Gorffennaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rhoddwyd Parc Bute i bobl Caerdydd ac mae&#8217;r digwyddiadau hyn yn cyfyngu mynediad i ddeiliaid sydd wedi talu am docynnau. Sut gall hynny fod yn deg?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mynediad cyhoeddus i fannau gwyrdd yn bwysig. Mae&#8217;r Cyngor yn deall y pryder hwn a&#8217;r effaith dros dro y mae&#8217;r digwyddiadau hyn yn ei chael ar ddefnyddwyr eraill y parc.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, mae parciau yn wasanaethau anstatudol ac ar \u00f4l toriadau sylweddol i gyllidebau, sydd wedi cael cryn sylw dros y degawd diwethaf, a phwysau parhaus ar gyllidebau llywodraeth leol, mae&#8217;n rhaid i ni gydbwyso mynediad cyhoeddus \u00e2 chynhyrchu incwm sy&#8217;n sicrhau y gallwn barhau i gynnal a buddsoddi ym mharciau&#8217;r ddinas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn cydnabod yn llawn mai mater o bwyso a mesur yw hyn \u2013 nid yn unig rhwng incwm a mynediad, ond hefyd r\u00f4l Caerdydd fel prifddinas, sy&#8217;n enwog ledled y byd fel dinas ddigwyddiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth sy\u2019n digwydd i&#8217;r gemau criced sydd fel arfer yn cael eu chwarae ar Gaeau\u2019r Gored Ddu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn deialog gyda chynghreiriau criced lleol a Chriced Cymru, mae&#8217;r holl gemau criced sydd i fod i gael eu cynnal yn ystod y digwyddiadau haf hyn wedi&#8217;u hadleoli i leoliadau eraill.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd un cae criced yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yn parhau i gael ei ddefnyddio am y tymor llawn, ac eithrio ar y pum dyddiad pan fydd cyngerdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth am y caeau criced? Sut maen nhw&#8217;n cael eu hamddiffyn rhag difrod?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw cynnal cyngherddau ar gaeau chwaraeon yn anarferol ac mae gofal arbennig yn cael ei gymryd i amddiffyn y sgwariau criced rhag difrod. Bydd y dechnoleg a ddefnyddir yn y Gored Ddu yr un peth ag a ddefnyddir pan mae meysydd criced proffil uchel, fel Old Trafford, yn cynnal digwyddiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cynllun adfer tyweirch llawn ar waith ar gyfer y meysydd allanol, gan gynnwys awyru pridd cywasgedig ac ail-hadu unrhyw glytiau fydd wedi treulio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel rhan o&#8217;r cytundeb bond gyda gweithredwr y digwyddiad, bydd y costau o &#8216;wneud yn iawn&#8217; am unrhyw ddifrod yn cael eu talu gan weithredwr y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth os bydd hi&#8217;n bwrw glaw? Sut mae&#8217;r meysydd allanol yn cael eu hamddiffyn rhag difrod hirdymor?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd amodau&#8217;r tir yn cael eu monitro bob dydd ac os yw tywydd eithafol yn gwneud amodau yn anghynaladwy, mae cymal &#8216;dewis olaf&#8217; ar waith yn y contract gyda hyrwyddwr y digwyddiad, fyddai&#8217;n caniat\u00e1u lleihau \u00f4l troed y digwyddiad, neu o bosibl ei ganslo, os yw o\u2019r farn ei fod yn angenrheidiol i atal difrod hirdymor sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Onid yw Parc Bute yn rhestredig? Ydy hynny wedi cael ei ystyried?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ydy, mae Parc Bute yn barc rhestredig Gradd 1 ac mae hyn wedi cael ei ystyried ym mhob penderfyniad ynghylch y digwyddiadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers 2014 mae Parc Bute wedi dal Gwobr Treftadaeth Baner Werdd i gydnabod safon uchel o reoli a dehongli safle sydd \u00e2 phwysigrwydd hanesyddol lleol neu genedlaethol, gan dynnu sylw at ba mor ddifrifol yr ydym yn cymryd gwarchod y man gwyrdd unigryw hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae asesiad effaith treftadaeth annibynnol wedi&#8217;i gwblhau sy&#8217;n nodi y bydd &#8220;yr effaith hirdymor ar y parc hanesyddol cofrestredig yn fach iawn.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymgynghorwyd \u00e2 Cadw hefyd yn ystod proses y cais cynllunio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd unrhyw goed yn cael eu torri i lawr i hwyluso&#8217;r digwyddiadau eleni?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Na.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut bydd y fflora a&#8217;r ffawna yn y parc yn cael eu diogelu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyrwyddwyr y digwyddiad yn cymryd eu cyfrifoldeb dros weithio yn lleoliad unigryw Parc Bute o ddifrif ac mae ystyriaeth ofalus wedi cael ei rhoi i ddiogelu amgylchedd y parc.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae bywyd gwyllt trefol fel arfer yn adfer unwaith y bydd aflonyddwch yn pasio. Fodd bynnag, mae&#8217;r camau sy&#8217;n cael eu cymryd i sicrhau bod unrhyw effaith bosibl yn cael ei leihau yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yr holl oleuadau ac eithrio goleuadau diogelwch yn cael eu diffodd am 23.30pm.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cyfeiriadedd y llwyfan a\u2019r dyluniad goleuo yn osgoi taflu goleuadau pwerus ar ganop\u00efau coed yn barhaus, gyda goleuadau wedi&#8217;u cyfeirio am i lawr yn canolbwyntio ar y llwyfan a&#8217;r dorf ac ychydig iawn yn llifo i&#8217;r awyr neu&#8217;r coed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd parthau diogelu coed yn eu lle o amgylch unrhyw goed agored i niwed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuodd rhaglen o waith cadwraeth, a gyflwynwyd gyda chymorth incwm a gynhyrchwyd gan ddigwyddiadau Blackweir Live yr haf diwethaf, gyda\u2019r nod o wella iechyd hirdymor coedwigoedd y Gored Ddu yn gynharach eleni. Nod y gwaith yw gwella iechyd hirdymor coedwigoedd y Gored Ddu, gwella bioamrywiaeth, gwella strwythur y coetir a rheoli clefyd coed ynn i sicrhau diogelwch y cyhoedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;Mae mwy o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yma:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cardiffnewsroom.co.uk\/releases\/c25\/36704.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><u>https:\/\/www.newyddioncaerdydd.co.uk\/releases\/c25\/36251.html<\/u><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth am y madarch capiau cwyr sydd wedi&#8217;u darganfod ar Gaeau\u2019r Gored Ddu? Sut caiff rhain eu gwarchod?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd gorchuddion amddiffynnol yn cael eu defnyddio i sicrhau iechyd parhaus y myceliwm yn y pridd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd poblogaeth capiau cwyr yn y Gored Ddu yn cael ei monitro&#8217;n rheolaidd i asesu unrhyw effaith bosibl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd digwyddiadau Blackweir Live yn effeithio ar safle Perllan Gymunedol Parc Bute?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Na, mae&#8217;r Berllan Gymunedol y tu allan i \u00f4l troed y digwyddiad. Bydd trefniadau&#8217;n cael eu gwneud i sicrhau bod y berllan yn cael ei gwarchod gyda ffensys amddiffynnol a bydd cyfleusterau ar gael i alluogi coed newydd i gael eu dyfrio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth am y s\u0175n?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Parc Bute yn barc canol dinas sy&#8217;n cynnal digwyddiadau rheolaidd, gyda llawer ohonynt yn cynnwys cerddoriaeth fyw. Fodd bynnag, gan adeiladu ar wersi a ddysgwyd yn ystod y cyngherddau cyntaf yn y Gored Ddu yr haf diwethaf, mae cynllun rheoli s\u0175n diwygiedig wedi cael ei ddatblygu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r cynllun yn cynnwys trefniadau gwell i fonitro lefelau s\u0175n yn barhaus trwy gydol y cyngherddau (gan gynnwys yn ystod gwiriadau sain) a galluogi gweithredu ar unwaith i leihau lefelau s\u0175n, os oes angen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd pontydd dros dro yn cael eu gosod dros y gamlas cyflenwi&#8217;r dociau ar gyfer digwyddiadau eleni?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd. Bydd pedair pont dros dro i gerddwyr yn cael eu gosod dros y gamlas cyflenwi\u2019r dociau i wella diogelwch y cyhoedd. Bydd y pontydd hyn yn yr un lleoliadau ag yr oeddent ar gyfer cyngherddau y llynedd a byddant yn darparu llwybrau mynediad ac allanfa ychwanegol i gerddwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd mwyafrif helaeth y gynulleidfa yn mynd i mewn ac allan o Gaeau\u2019r Gored Ddu trwy Barc Bute gan ddefnyddio mynedfeydd y parc ym Mhorth y Gogledd, Heol Corbett, a thrwy Borth y Gorllewin ar Stryd y Castell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y bont gerbydau bresennol ger yr hen orsaf ambiwlans hefyd yn cael ei gorchuddio \u00e2 phont dros dro. Bydd y bont dros dro hon yn darparu&#8217;r cryfder ychwanegol sydd ei angen ar gyfer unrhyw gerbydau mwy eu maint sydd angen mynediad i ardal y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Eleni, bydd pont yr orsaf ambiwlans hefyd yn darparu allanfa ychwanegol i gerddwyr ar ddiwedd y cyngherddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd unrhyw ffyrdd ar gau ar gyfer y cyngherddau hyn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd. Mae&#8217;r trefniadau wedi cael eu hadolygu yn dilyn cyngherddau y llynedd, a bydd cynllun rheoli traffig diwygiedig yn cael ei roi ar waith. Bydd hyn yn cynnwys cau rhannau o Heol y Gogledd, Boulevard de Nantes a Stryd y Castell yn ogystal \u00e2 ffyrdd o fewn y Ganolfan Ddinesig ar ddiwrnodau\u2019r cyngherddau. Bydd manylion llawn yn cael eu cyhoeddi cyn y cyngerdd cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw&#8217;r cyngor teithio i bobl sy&#8217;n teithio i Gaerdydd ar gyfer y cyngherddau hyn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cyngor teithio llawn yn cael ei gyhoeddi cyn y cyngerdd cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cynghorir pobl sy&#8217;n mynychu&#8217;r cyngherddau yn gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw, cyrraedd Caerdydd yn gynnar, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl, ac i gerdded neu feicio os ydyn nhw&#8217;n byw yn agos ac yn gallu gwneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd cyfleusterau parcio beiciau dros dro, ynghyd \u00e2 pharth gollwng pwrpasol, yn cael eu darparu eleni yn y Ganolfan Ddinesig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd llwybr beicio Heol y Gogledd ar gau?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd rhai gwyriadau dros dro byrdymor o&#8217;r llwybr beicio ar waith i hwyluso&#8217;r gwaith o osod a datgymalu\u2019r digwyddiad. Ar ddiwrnodau\u2019r cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr amgen tebyg i\u2019r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd y cyngherddau yn cael unrhyw effaith ar Daith Taf?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Na. Bydd Taith Taf yn parhau i fod ar agor. Bydd Pont y Gored Ddu hefyd yn aros ar agor. Fodd bynnag, bydd llwybrau yn rhan ogleddol Parc Bute ar gau ar ddyddiadau\u2019r cyngherddau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd manylion llawn yn cael eu nodi&#8217;n glir o fewn y parc ac ar gael ar wefan Parc Bute.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>A fydd y Cyngor yn gwneud arian o&#8217;r cyngherddau hyn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd. Ynghyd \u00e2 digwyddiadau poblogaidd a sefydledig eraill sydd eisoes yn digwydd ym Mharc Bute, bydd digwyddiadau Blackweir Live yn darparu incwm hanfodol i alluogi\u2019r Cyngor i barhau i fuddsoddi ym mharciau&#8217;r ddinas a chynnal y safonau uchel yn ein mannau gwyrdd y mae preswylwyr yn eu haeddu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd incwm o&#8217;r digwyddiadau hefyd yn ein helpu i barhau i gyflawni ein huchelgais fel dinas gerdd, gan gefnogi ein lleoliadau llawr gwlad a hyrwyddo&#8217;r ddinas fel cyrchfan gerddoriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r incwm a gynhyrchwyd o gyngherddau Blackweir Live y llynedd wedi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>cyfrannu at lwyddiant parhaus cynllun datblygu talent &#8216;Gigs Bach&#8217;;<\/li>\n\n\n\n<li>darparu cyllid cyfalaf i gefnogi lleoliadau llawr gwlad Caerdydd;<\/li>\n\n\n\n<li>helpu i gyflawni gwaith ehangach Dinas Gerdd Caerdydd;<\/li>\n\n\n\n<li>ariannu rhaglen o waith cadwraeth i gynyddu bioamrywiaeth a gwella iechyd cyffredinol coetir yn y Gored Ddu;<\/li>\n\n\n\n<li>ariannu uwchraddio llwybrau parciau; ac<\/li>\n\n\n\n<li>ariannu rhaglen adnewyddu arwyddion parciau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth fydd manteision y cyngherddau hyn i economi Caerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yr artistiaid byd-enwog sy&#8217;n chwarae yn Blackweir Live yn denu ymwelwyr i&#8217;r ddinas ac yn arwain at fanteision economaidd sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth cyngherddau y llynedd yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>gyfrannu at gynnydd o 15.6% yng ngwerthiannau canol y ddinas yn ystod mis y cyngherddau o&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;r un cyfnod yn 2024, gyda gwerthiannau&#8217;r sector adloniant i fyny 231.2% a gwerthiannau bwyd a diod i fyny 20.1% (yn \u00f4l data gwariant gan Beauclair &#8211; cwmni sy\u2019n arbenigo mewn data stryd fawr).<\/li>\n\n\n\n<li>cefnogi 3,118 o swyddi, 95% ohonynt gyda busnesau o Gymru oedd yn rhan o gadwyn gyflenwi&#8217;r digwyddiad.<\/li>\n\n\n\n<li>gweld dros 100,000 o bobl yn mynychu.<\/li>\n\n\n\n<li>codi dros \u00a360,000 i elusennau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gyfuno cyngherddau haf diwethaf y Gored Ddu gyda\u2019r rhai a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynhyrchodd y digwyddiadau \u00a364 miliwn net o fudd ychwanegol i economi&#8217;r DU.<\/li>\n\n\n\n<li>Amcangyfrifir bod y cyngherddau wedi arwain at wariant ychwanegol o oddeutu \u00a339m gyda busnesau sy&#8217;n gweithredu yng Nghaerdydd, a \u00a343m yng Nghymru.<\/li>\n\n\n\n<li>Ysgogodd y cyngherddau dros 700,000 o ymweliadau ychwanegol \u00e2 safleoedd bwyta ac yfed, gan gynnwys 133,000 o ymweliadau \u00e2 chaffis \/ siopau coffi, 363,000 \u00e2 bariau a thafarndai a 147,000 \u00e2 bwytai.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Nod yr Holi ac Ateb hwn yw ateb cwestiynau cyffredin am y cyngherddau Blackweir Live sydd ar ddod. Gall preswylwyr sydd ag unrhyw gwestiynau neu bryderon ychwanegol gysylltu \u00e2 ni am fwy o wybodaeth. Am fanylion cysylltu \u00e2 ni, ewch i:&nbsp;https:\/\/www.cardiff.gov.uk\/CYM\/Hafan\/Cysylltu-ar-Cyngor\/Ymholiadau-cyffredinol\/Pages\/default.aspx A fydd cyngherddau yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn? Bydd. Bydd pum cyngerdd&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/bw4-6-26\/\">View Diweddariad Holi ac Ateb Byw Blackweir Live (4.6.26)<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":12368,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-14039","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14039","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14039"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14039\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":14041,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/14039\/revisions\/14041"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12368"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14039"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14039"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14039"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}