{"id":13646,"date":"2026-01-30T13:52:09","date_gmt":"2026-01-30T13:52:09","guid":{"rendered":"https:\/\/bute-park.com\/blackweir-fields-faqs\/"},"modified":"2026-01-30T13:55:34","modified_gmt":"2026-01-30T13:55:34","slug":"blackweir-fields-faqs","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/blackweir-fields-faqs\/","title":{"rendered":"Caeau\u2019r Gored Ddu &#8211; Cwestiynau Cyffredin"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Caeau\u2019r Gored Ddu &#8211; Cwestiynau Cyffredin<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>A fydd cyngherddau yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae chwe chyngerdd wedi&#8217;u cynllunio yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn. Mae&#8217;r sioeau &#8216;Blackweir Live&#8217; yn cynnwys: The Cure (24 Mehefin), Teddy Swims (26 Mehefin), Lewis Capaldi (30 Mehefin a 1 Gorffennaf), Pitbull (4 Gorffennaf), a Neil Young &amp; The Chrome Hearts (5 Gorffennaf).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A oes gan ddigwyddiadau\u2019r haf drwydded i allu mynd yn eu blaen?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Oes. Cymeradwywyd trwydded safle ar gyfer Caeau\u2019r Gored Ddu ym mis Ebrill 2025. Mae&#8217;r drwydded yn caniat\u00e1u hyd at 6 digwyddiad bob blwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A yw digwyddiadau\u2019r haf wedi cael caniat\u00e2d cynllunio?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dim eto. Mae ymgysylltiad cyhoeddus cam cynnar wedi dechrau cyn i Gyngor Caerdydd gyflwyno cais cynllunio. Bydd y cais yn gofyn am ganiat\u00e2d ar gyfer defnydd dros dro o Gaeau\u2019r Gored Ddu ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau byw, tan ddiwedd haf 2031.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) ar agor tan 28\/2\/26<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw YCY?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (YCY) yn rhoi cyfle i ymgysylltu \u00e2 thrigolion lleol, cyrff statudol perthnasol, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill cyn cyflwyno cais cynllunio yn ffurfiol i&#8217;r Awdurdod Cynllunio Lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r cam ymgynghori ychwanegol hwn yn gyfle pwysig i breswylwyr wneud sylwadau ar gynigion drafft cychwynnol, dylanwadu ar y cais cynllunio terfynol, a helpu i lunio digwyddiadau byw\u2019r dyfodol yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r YCY ar gyfer Caeau\u2019r Gored Ddu yn cynnwys gwybodaeth gychwynnol am:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>nifer a hyd y digwyddiadau arfaethedig.<\/li>\n\n\n\n<li>ystyriaethau\u2019n ymwneud \u00e2 s\u0175n, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>maint disgwyliedig y gynulleidfa.<\/li>\n\n\n\n<li>mesurau lliniaru arfaethedig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Sut alla i gymryd rhan yn yr YCY?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gall aelodau&#8217;r cyhoedd weld y wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld \u00e2:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.asbriplanning.co.uk\/statutory-pre-application-consultation\/blackweir-fields-cardiff-cf10-3ea-caeau-blackweir-caerdydd-cf10-3ea\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.asbriplanning.co.uk\/statutory-pre-application-consultation\/blackweir-fields-cardiff-cf10-3ea-caeau-blackweir-caerdydd-cf10-3ea<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r ymgynghoriad ar agor tan 28\/2\/26 ac mae croeso i bob barn, p&#8217;un a ydych chi o blaid y digwyddiadau neu os oes gennych chi bryderon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>A fydd cyfle i&#8217;r cyhoedd wneud sylwadau ar y cais cynllunio terfynol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus statudol 21 diwrnod o hyd &#8211; sy\u2019n rhoi\u2019r cyfle i&#8217;r cyhoedd wneud sylwadau ar y cynlluniau terfynol &#8211; hefyd yn cael ei gynnal fel rhan o&#8217;r broses gynllunio ffurfiol yn ddiweddarach eleni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pam mae&#8217;r Cyngor yn gwneud cais am ganiat\u00e2d cynllunio ar \u00f4l peidio \u00e2 gwneud hynny y llynedd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfraith gynllunio yn caniat\u00e1u hyd at 28 diwrnod o &#8216;newid defnydd&#8217; dros dro heb fod angen caniat\u00e2d cynllunio. Dim ond ym mis Mai 2025 y pennodd dyfarniad cyfreithiol sut yn union y dylid cymhwyso&#8217;r rheol 28 diwrnod yn y dyfodol, ac y dylid cynnwys gwaith adeiladu a datgymalu digwyddiad yn y 28 diwrnod &#8211; ar \u00f4l i ddigwyddiadau\u2019r Gored Ddu ar gyfer y llynedd gael eu cytuno a&#8217;u harchebu.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan mae\u2019r gwaith adeiladu a datgymalu wedi&#8217;i gynnwys, bydd y cyngherddau sydd wedi\u2019u cynllunio ar gyfer haf 2026 yn fwy na&#8217;r terfyn o 28 diwrnod. Mae hyn yn golygu, er mwyn cydymffurfio \u00e2 dyfarniad cyfreithiol y llynedd, bod angen caniat\u00e2d cynllunio. Byddai&#8217;r caniat\u00e2d arfaethedig yn caniat\u00e1u i ddigwyddiadau tebyg gael eu cynnal bob blwyddyn tan 2031.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n ymddangos mai Cyngor Caerdydd sy\u2019n mynd i fod yn gwneud cais am ganiat\u00e2d cynllunio ac yn gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniat\u00e2d cynllunio. Sut mae hynny&#8217;n gweithio?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n rhaid i Gyngor Caerdydd weithio o fewn cyfreithiau, polis\u00efau a fframweithiau cynllunio. Lle mae\u2019r Cyngor yn bwriadu defnyddio tir, neu ymgymryd \u00e2 gwaith datblygu, sy\u2019n gofyn am ganiat\u00e2d cynllunio ffurfiol, rhaid iddo wneud cais ffurfiol i&#8217;r &#8216;Awdurdod Cynllunio Lleol&#8217; am ganiat\u00e2d o dan Reoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mai Cyngor Caerdydd yw&#8217;r &#8216;Awdurdod Cynllunio Lleol&#8217; hefyd, mae&#8217;r Gyfraith yn caniat\u00e1u iddo fod yn ymgeisydd a phenderfynwr. Mae prosesau priodol ar waith i sicrhau priodoldeb.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y cais \u2013 fel y byddai ar gyfer unrhyw ddatblygiad arall \u2013 yn ei r\u00f4l reoleiddiol fel yr &#8216;Awdurdod Cynllunio Lleol&#8217;. Mae hyn yn golygu dilyn yr holl brosesau priodol, gan gynnwys cyhoeddi&#8217;r cais, a dod i gasgliad ar rinweddau&#8217;r datblygiad arfaethedig mewn adroddiad Swyddog, yn union fel y byddai ar gyfer unrhyw ymgeisydd arall.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid adrodd am geisiadau mawr a gyflwynir gan y Cyngor, fel y cais sydd ar ddod ar gyfer Caeau\u2019r Gored Ddu, i&#8217;r Pwyllgor Cynllunio er mwyn i Aelodau&#8217;r Pwyllgor wneud y penderfyniad terfynol. Mae hyn yn sicrhau bod pob penderfyniad yn destun craffu cyhoeddus priodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r pwyllgor cynllunio yn cynnwys Cynghorwyr etholedig o bob rhan o&#8217;r sbectrwm gwleidyddol ac mae&#8217;n wleidyddol rydd i benderfynu, yn seiliedig ar dystiolaeth wrthrychol, a ddylai datblygiad fynd yn ei flaen ai peidio. Cynghorir y Cynghorwyr hyn gan swyddogion cynllunio hyfforddedig a chymwys sy&#8217;n deall cyfraith cynllunio a gofynion ar gyfer datblygiadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir herio pob penderfyniad a wneir gan y Cyngor, yn ei r\u00f4l fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, drwy wneud cais i&#8217;r Uchel Lys.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Caeau\u2019r Gored Ddu &#8211; Cwestiynau Cyffredin A fydd cyngherddau yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn? Mae chwe chyngerdd wedi&#8217;u cynllunio yng Nghaeau\u2019r Gored Ddu yr haf hwn. Mae&#8217;r sioeau &#8216;Blackweir Live&#8217; yn cynnwys: The Cure (24 Mehefin), Teddy Swims (26 Mehefin), Lewis Capaldi (30 Mehefin a 1 Gorffennaf), Pitbull (4 Gorffennaf), a Neil Young&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/blackweir-fields-faqs\/\">View Caeau\u2019r Gored Ddu &#8211; Cwestiynau Cyffredin<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":12368,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-13646","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13646","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13646"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13646\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13649,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13646\/revisions\/13649"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12368"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13646"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13646"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13646"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}