{"id":6163,"date":"2020-09-14T15:46:20","date_gmt":"2020-09-14T15:46:20","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/?page_id=6163"},"modified":"2020-09-15T09:26:07","modified_gmt":"2020-09-15T09:26:07","slug":"cyfrannu-telerau-ac-amodau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/cyfrannu-telerau-ac-amodau\/","title":{"rendered":"Telerau ac Amodau"},"content":{"rendered":"<div class=\"vce-row-container\"><div class=\"vce-row vce-element--has-background vce-row--col-gap-0 page_top vce-row-columns--top vce-row-content--top\" data-vce-full-width=\"true\" id=\"el-46f1163c\" data-vce-do-apply=\"all el-46f1163c\"><div class=\"vce-content-background-container\"><div class=\"vce-asset-background-simple-container vce-visible-all-only vce-asset-background-simple--style-cover vce-asset-background-simple--position-center-top\"><div class=\"vce-asset-background-simple\"><div class=\"vce-asset-background-simple-item\" style=\"background-image: url('https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/home_01.jpg');\"><\/div><\/div><\/div><\/div><div class=\"vce-row-content\" data-vce-element-content=\"true\" style=\"padding-left: 221.465px; padding-right: 221.465px;\"><div class=\"vce-col vce-col--md-auto vce-col--xs-1 vce-col--xs-last vce-col--xs-first vce-col--sm-last vce-col--sm-first vce-col--md-last vce-col--lg-last vce-col--xl-last vce-col--md-first vce-col--lg-first vce-col--xl-first\" id=\"el-f558ac19\"><div class=\"vce-col-inner\" data-vce-do-apply=\"border margin background  el-f558ac19\"><div class=\"vce-col-content\" data-vce-element-content=\"true\" data-vce-do-apply=\"padding el-f558ac19\"><div class=\"vce-text-block\" id=\"page_title\"><div class=\"vce-text-block-wrapper vce\" id=\"el-950255e0\" data-vce-do-apply=\"all el-950255e0\"><h2>Telerau ac Amodau<\/h2><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><div class=\"vce-row-container\"><div class=\"vce-row vce-row--col-gap-30 vce-row-columns--top vce-row-content--top\" id=\"el-46b62b65\" data-vce-do-apply=\"all el-46b62b65\"><div class=\"vce-content-background-container\"><\/div><div class=\"vce-row-content\" data-vce-element-content=\"true\"><div class=\"vce-col vce-col--md-auto vce-col--xs-1 vce-col--xs-last vce-col--xs-first vce-col--sm-last vce-col--sm-first vce-col--md-last vce-col--lg-last vce-col--xl-last vce-col--md-first vce-col--lg-first vce-col--xl-first\" id=\"el-fe6b42f1\"><div class=\"vce-col-inner\" data-vce-do-apply=\"border margin background  el-fe6b42f1\"><div class=\"vce-col-content\" data-vce-element-content=\"true\" data-vce-do-apply=\"padding el-fe6b42f1\"><div class=\"vce-text-block\"><div class=\"vce-text-block-wrapper vce\" id=\"el-0177f9e3\" data-vce-do-apply=\"all el-0177f9e3\"><h2>Cynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Bute<\/h2><p>darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r wefan hon neu gyfrannu arian parod at y project gwella<\/p><h3>Diffiniadau<\/h3><p><em>Cynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Bute:<\/em> Yr holl weithgareddau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ddylunio projectau, cynllunio, caffael, prosesu trafodion, taliadau prosesu cardiau, diweddaru\u2019r wefan a marchnata) sy\u2019n ymwneud \u00e2 gweinyddu cynllun sy'n rhoi cyfle i bobl gyfrannu arian parod yn wirfoddol tuag at Broject Gwella penodol a enwir ym Mharc Bute.<\/p><p><em>Cyfrannu:<\/em> Rhodd arian parod a wnaed i Gyngor Caerdydd er mwyn cyfrannu tuag at Broject Gwella.<\/p><p><em>Rhoddwr<\/em>: yr unigolyn sy'n Cyfrannu at Broject Gwella.<\/p><p><em>Project Gwella<\/em>: Y project presennol a enwir fel y'i dangosir ar y Wefan ar adeg darllen. Dim ond un Project Gwella fydd yn cael ei gynnal ym Mharc Bute ar unrhyw un adeg. Bydd tudalennau projectau blaenorol yn cael eu cau a\u2019u harchifo ar wefan bute-park.com\/cy\/ (neu\u2019n Saesneg ar bute-park.com) er mwyn gallu cyfeirio atynt.<\/p><p><em>TAW:<\/em> Treth Ar Werth<\/p><p><em>Ni:<\/em> Gr\u0175p Parc Bute a\/neu Gyngor Caerdydd<\/p><p><em>Gwefan:<\/em> Tudalennau Cynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Bute yn www.bute-park.com\/cy\/ neu\u2019n Saesneg yn www.bute-park.com<\/p><p>&nbsp;<\/p><p>Pwy ydyn ni a sut i gysylltu \u00e2 ni<\/p><p>Mae www.bute-park.com\/cy\/ (neu www.bute-park.com) yn wefan sy\u2019n cael ei chynllunio a\u2019i gweithredu gan Gr\u0175p Parc Bute. Rydym yn gorff sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'i Gyfarwyddiaeth Datblygu Economaidd ac mae ein cyfeiriad cofrestredig yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW. Ein prif gyfeiriad masnachu yw Canolfan Ymwelwyr Parc Bute, Parc Bute, Heol y Gogledd, Caerdydd, CF10 3DX. I gysylltu \u00e2 ni, anfonwch e-bost i butepark@cardiff.gov.uk.<\/p><p><strong>&nbsp;<\/strong><\/p><h3>Cyffredinol<\/h3><p>Os bydd unrhyw ddarpariaethau yn y telerau a'r amodau hyn yn annilys neu'n amhosibl eu gorfodi, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y darpariaethau sy'n weddill.<\/p><p>Mae\u2019r telerau a'r amodau hyn yn ffurfio\u2019r cytundeb cyfan rhyngoch chi a Chyngor Caerdydd ac maent yn disodli'r holl gyfathrebiadau a chynigion eraill, boed yn electronig neu'n ysgrifenedig, rhwng defnyddiwr y Wefan a Chyngor Caerdydd.<\/p><p>Ni ystyrir bod unrhyw fethiant gan Gyngor Caerdydd i arfer neu orfodi unrhyw un o'i hawliau o dan y telerau ac amodau hyn yn hepgor unrhyw hawliau o'r fath.<\/p><p><strong>&nbsp;<\/strong><\/p><h3>Awdurdodaeth<\/h3><p>Mae'r telerau ac amodau a'r defnydd gan ddefnyddiwr y Wefan yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau sy'n codi o'r Wefan neu sy'n gysylltiedig \u00e2 hi, unrhyw drafodion a wneir ar y Wefan a\/neu'r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.<\/p><p>Drwy gyfrannu at Broject Gwella rydych yn derbyn y telerau hyn<\/p><p>Drwy ddefnyddio'r Wefan i gyfrannu arian parod at unrhyw Broject Gwella a enwir, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio \u00e2 nhw.<\/p><p>Os nad ydych yn cytuno i'r telerau hyn, rhaid i chi beidio \u00e2 defnyddio'r Wefan i gyfrannu arian. Ni allwch gyfrannu oni bai eich bod yn cytuno \u00e2'r telerau hyn drwy dicio'r blwch i ddangos eich bod wedi darllen a deall y telerau hyn. Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o'r telerau hyn er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol.<\/p><p>Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi<\/p><p>Bydd y telerau ychwanegol hyn hefyd yn berthnasol i'ch defnydd o'r Wefan:<\/p><ul><li><a href=\"..\/polisi-preifatrwydd-cynllun\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Polisi Preifatrwydd Cynllun Cyfrannu<\/a> Project Gwella Parc Bute, sy\u2019n nodi sut mae eich data yn cael eu casglu a\u2019u defnyddio<\/li><\/ul><ul><li><a href=\"http:\/\/privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk\/Preifatrwydd.php?site=bp&amp;lang=cymraeg\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Polisi Preifatrwydd Cyngor Caerdydd<\/a><em>, <\/em>sy'n nodi sut mae eich data'n cael eu casglu a'u defnyddio.<\/li><li><a href=\"http:\/\/privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk\/Cwcis.php\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Polisi Cwcis Cyngor Caerdydd<\/a>, sy'n nodi gwybodaeth am y cwcis ar y Wefan.<\/li><\/ul><p>&nbsp;Gallwn wneud newidiadau i'r telerau hyn<\/p><p>Rydym yn diwygio'r telerau hyn o bryd i'w gilydd. Bob tro yr hoffech ddefnyddio'r Wefan i gyfrannu arian, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy'n berthnasol bryd hynny.<\/p><p>&nbsp;Gallwn wneud newidiadau i\u2019r Wefan<\/p><p>Gallwn ddiweddaru a newid y Wefan o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau i'n Projectau Gwella.<\/p><p>&nbsp;Dibynnu ar wybodaeth ar y Wefan<\/p><p>Darperir y cynnwys ar y Wefan er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddi fod yn gyfystyr \u00e2 chyngor y dylech ddibynnu arno.&nbsp;&nbsp;<\/p><p>Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru'r wybodaeth ar y Wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau bod y cynnwys ar y Wefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol.<\/p><p>&nbsp;<\/p><h3>Cyfrannu Arian<\/h3><p>Drwy gyfrannu arian, rydych yn cytuno i roi rhodd o arian parod i Gyngor Caerdydd at y diben(ion) a nodir ar y Wefan o dan y Project Gwella yr ydych yn cyfrannu ato.<\/p><p>Mae isafswm rhodd o \u00a32.00 (dwy bunt). Ni ellir cyfrannu llai na \u00a32.00. Nid oes terfyn uchaf ar symiau Cyfrannu ond os hoffech gyfrannu mwy na'r balans sy'n weddill ar y Project Gwella presennol, cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:butepark@cardiff.gov.uk\"><em>parcbute@caerdydd.gov.uk<\/em><\/a> i drafod eich opsiynau. Bydd unrhyw symiau a wneir sy'n uwch na'r Project Gwella presennol yn cael eu cadw a'u trosglwyddo i'r Project Gwella nesaf.<\/p><p>Gweler y Wefan am ragor o fanylion am Gyfrannu a\u2019r hyn y bydd eich cyfraniad yn cael ei wario arno.<\/p><p>Dim ond deiliad(au) y cyfrif y gwnaed y Cyfraniad ohono all gyfrannu, neu rywun sydd \u00e2 chaniat\u00e2d deiliad(au) y cyfrif y gwnaed y Cyfraniad ohono i wneud Cyfraniad.<\/p><p>&nbsp;<\/p><h3>Trethiant<\/h3><p>Nid yw rhoddion i brojectau gwella a enwir yn ddarostyngedig i Dreth ar Werth (TAW).<\/p><p>&nbsp;<\/p><h3>Rhodd Cymorth<\/h3><p>Nid yw Cyngor Caerdydd yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Felly, ni fydd unrhyw Gyfraniadau yn destun Rhodd Cymorth.<\/p><p>&nbsp;<\/p><h3>Cadw arian<\/h3><p>Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw hyd at 25% o'r holl Gyfraniadau, a fydd yn mynd tuag at gostau gweinyddol a chyllideb cynnal Cynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Bute. I gael rhagor o wybodaeth am y swm penodol sydd i'w gadw ar gyfer costau gweinyddol, ewch i'r Wefan.<\/p><p>&nbsp;<\/p><h2>Eich Gwybodaeth Bersonol<\/h2><p>Mae'r holl ddata personol a gedwir gennym neu ar ein rhan yn cael eu cadw yn unol \u00e2:<\/p><ul><li><a href=\"..\/polisi-preifatrwydd-cynllun\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Pholisi Preifatrwydd Cynllun Cyfrannu Project<\/a> Gwella Parc Bute<\/li><\/ul><ul><li><a href=\"http:\/\/privacy.cardiffcouncilwebteam.co.uk\/Preifatrwydd.php?site=bp&amp;lang=cymraeg\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Polisi Preifatrwydd Cyngor Caerdydd<\/a><\/li><\/ul><p>&nbsp;<\/p><h3>Ad-daliadau<\/h3><p>Os byddwch yn gwneud Cyfraniad, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn o'r arian yr ydych wedi'i gyfrannu o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y gwnaed eich Cyfraniad. Os oes angen ad-daliad arnoch, anfonwch e-bost i <a href=\"mailto:butepark@cardiff.gov.uk\"><em>parcbute@caerdydd.gov.uk<\/em><\/a> neu ffoniwch 02920 872730 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhoi eich cyfeirnod Cyfrannu, a fydd yn cael ei gynnwys ar eich derbynneb electronig.<\/p><p>&nbsp;<\/p><h3>Gwrthod Rhoddion<\/h3><p>Rydym yn cadw'r hawl i wrthod Cyfraniadau a wnaed i Broject Gwella sydd:<\/p><ul><li>yn cael eu gwneud o gyfrif sy\u2019n perthyn i fusnes. Dim ond unigolion preifat all Gyfrannu<\/li><li>yn anghyfreithlon (e.e. Cyfraniadau a wneir gan ddefnyddio enillion troseddau) neu ddim yn unol \u00e2 pholis\u00efau Cyngor Caerdydd<\/li><li>wedi'i wneud gan rywun nad oedd ganddo, ar adeg Cyfrannu, y galluedd meddyliol i wneud Cyfraniad o'r fath<\/li><li>ddim yn unol \u00e2 nodau a dibenion y Project Gwella, sydd i'w gweld ar y Wefan<\/li><\/ul><p>&nbsp;<\/p><p>Cyfyngu ar atebolrwydd<\/p><p>Ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol (hyd yn oed os gellir ei ragweld) boed yn seiliedig ar gontract, camwedd neu fel arall, i'r graddau llawnaf a ganiateir yn \u00f4l y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i atebolrwydd am: golli data neu elw; ymyriadau neu oedi i'r Wefan; darparu neu fethu \u00e2 darparu gwasanaethau; unrhyw wybodaeth, deunydd, nwyddau a gwasanaethau a geir drwy'r Wefan; neu fel arall yn deillio o'ch defnydd o'r Wefan.<\/p><p><strong>&nbsp;<\/strong><\/p><h3>Force Majeure<\/h3><p>Ni fydd Cyngor Caerdydd yn torri ei rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn, nac yn atebol i unrhyw un sy'n defnyddio'r Wefan am unrhyw golled neu ddifrod y gallai parti arall ei ddioddef oherwydd unrhyw achos y tu hwnt i'w reolaeth resymol. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i unrhyw weithred ddwyfol, streic, anghydfod diwydiannol, gweithred terfysgaeth, gweithred neu anwaith llywodraeth neu gyrff rheoleiddio.<\/p><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Telerau ac AmodauCynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Butedarllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio&#8217;r wefan hon neu gyfrannu arian parod at y project gwellaDiffiniadauCynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Bute: Yr holl weithgareddau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ddylunio projectau, cynllunio, caffael, prosesu trafodion, taliadau prosesu cardiau, diweddaru\u2019r wefan a&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/cyfrannu-telerau-ac-amodau\/\">View Telerau ac Amodau<\/a>","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6163","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6163","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6163"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6163\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6163"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}