{"id":12477,"date":"2024-12-24T13:49:24","date_gmt":"2024-12-24T13:49:24","guid":{"rendered":"https:\/\/bute-park.com\/statement-of-significance\/"},"modified":"2025-03-17T14:31:25","modified_gmt":"2025-03-17T14:31:25","slug":"statement-of-significance","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/statement-of-significance\/","title":{"rendered":"Statement of significance for Bute Park"},"content":{"rendered":"<div class=\"vce-row-container\"><div class=\"vce-row vce-element--has-background vce-row--col-gap-0 page_top vce-row-content--top\" data-vce-full-width=\"true\" id=\"el-b2f2671b\" data-vce-do-apply=\"all el-b2f2671b\"><div class=\"vce-content-background-container\"><div class=\"vce-asset-background-simple-container vce-visible-all-only vce-asset-background-simple--style-cover vce-asset-background-simple--position-center-bottom\"><div class=\"vce-asset-background-simple\">\n              <div class=\"vce-asset-background-simple-item vcv-lozad\" data-background-image=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/home_01.jpg\"><\/div>\n              <noscript>\n                <div class=\"vce-asset-background-simple-item\" style=\"background-image: url(https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/home_01.jpg)\"><\/div>\n              <\/noscript>\n            <\/div><\/div><\/div><div class=\"vce-row-content\" data-vce-element-content=\"true\"><div class=\"vce-col vce-col--md-auto vce-col--xs-1 vce-col--xs-last vce-col--xs-first vce-col--sm-last vce-col--sm-first vce-col--md-last vce-col--lg-last vce-col--xl-last vce-col--md-first vce-col--lg-first vce-col--xl-first\" id=\"el-213643ec\"><div class=\"vce-col-inner\" data-vce-do-apply=\"border margin background  el-213643ec\"><div class=\"vce-col-content\" data-vce-element-content=\"true\" data-vce-do-apply=\"padding el-213643ec\"><div class=\"vce-text-block\" id=\"page_title\"><div class=\"vce-text-block-wrapper vce\" id=\"el-5a2057e2\" data-vce-do-apply=\"all el-5a2057e2\"><h2>Park Bute datganiad o arwyddocad i Barc Bute<\/h2><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><div class=\"vce-row-container\" data-vce-boxed-width=\"true\"><div class=\"vce-row vce-row--col-gap-30 vce-row-equal-height vce-row-content--top\" id=\"el-f0030d06\" data-vce-do-apply=\"all el-f0030d06\"><div class=\"vce-row-content\" data-vce-element-content=\"true\"><div class=\"vce-col vce-col--md-75p vce-col--xs-1 vce-col--xs-last vce-col--xs-first vce-col--sm-last vce-col--sm-first vce-col--md-last vce-col--lg-last vce-col--xl-last vce-col--md-first vce-col--lg-first vce-col--xl-first\" id=\"el-5cfbfc7e\"><div class=\"vce-col-inner\" data-vce-do-apply=\"border margin background  el-5cfbfc7e\"><div class=\"vce-col-content\" data-vce-element-content=\"true\" data-vce-do-apply=\"padding el-5cfbfc7e\"><div class=\"vcv-row-control-wrapper\"><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><div class=\"vce-row-container\" data-vce-boxed-width=\"true\"><div class=\"vce-row vce-row--col-gap-30 vce-row-equal-height vce-row-content--top\" id=\"el-ac2f0501\" data-vce-do-apply=\"all el-ac2f0501\"><div class=\"vce-row-content\" data-vce-element-content=\"true\"><div class=\"vce-col vce-col--md-auto vce-col--xs-1 vce-col--xs-last vce-col--xs-first vce-col--sm-last vce-col--sm-first vce-col--md-last vce-col--lg-last vce-col--xl-last vce-col--md-first vce-col--lg-first vce-col--xl-first\" id=\"el-ca88b3b3\"><div class=\"vce-col-inner\" data-vce-do-apply=\"border margin background  el-ca88b3b3\"><div class=\"vce-col-content\" data-vce-element-content=\"true\" data-vce-do-apply=\"padding el-ca88b3b3\"><div class=\"vce-text-block\"><div class=\"vce-text-block-wrapper vce\" id=\"el-5068ac37\" data-vce-do-apply=\"all el-5068ac37\"><p>Mae Parc Bute yn un o'r parciau trefol mwyaf yn y DU, gyda thirwedd yn cynnwys gerddi o\u2019r 19<sup>fed <\/sup>ganrif a phlannu yn y de, gerllaw Castell Caerdydd, a chaeau chwaraeon a choetir anffurfiol yn y gogledd. Mae'r parc nid yn unig yn arwyddocaol yn hanesyddol, ond mae'r cyfuniad o ffactorau hanesyddol, amgylcheddol, garddwriaethol a ffactorau eraill yn gwneud hwn yn safle unigryw a phwysig ar raddfa leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Prif arwyddoc\u00e2d<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Elfennau prif arwyddoc\u00e2d Parc Bute yw:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>a) Cysylltiadau \u00e2 Theulu Bute (ynghyd \u00e2 Chastell Caerdydd)<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Parc Bute, ynghyd \u00e2 Chastell Caerdydd, yn arwyddocaol yn ei gysylltiadau cryf \u00e2 Theulu Bute fel un o nifer o ystadau ledled y DU a oedd yn eiddo i'r teulu rhwng canol y ddeunawfed ganrif a chanol yr ugeinfed ganrif. Er nad oedd yr yst\u00e2d byth yn fwy na chartref dros dro i'r teulu - mae'r ffaith bod cyfoeth y teulu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi\u2019i adeiladu ar lo a oedd yn cael ei gloddio o Gymoedd Cymru a'i allforio o'r dociau yng Nghaerdydd (a adeiladwyd gan deulu Bute) yn golygu bod cysylltiad penodol iawn \u00e2 Chaerdydd ac yn arbennig Parc Bute a Chastell Caerdydd,&nbsp; y buddsoddodd y teulu ynddynt yn helaeth i greu'r dirwedd a'r bensaern\u00efaeth sydd bellach yn rhan fawr o dreftadaeth nodedig Caerdydd.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Rhyngwladol&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>b) Lleoliad gweledol ar gyfer Castell Caerdydd<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Parc Bute yn cynnig y lleoliad nodweddiadol ar gyfer llawer o'r portreadau mwyaf hysbys o Gastell Caerdydd. Mae'r golygfeydd cynnar, lle mae blaendir West Street a'r caeau cyfagos yn canolbwyntio sylw ar y Castell ei hun, yn dyddio'n \u00f4l i 1678 (Francis Place, Caerdydd o'r gorllewin). Mae'r un ddelwedd yn cael ei hailadrodd mewn nifer o bortreadau clasurol o'r dref a'r castell yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig ysgythriadau Buck, 1741 a 1748. Gwnaeth y gwaith o drefnu\u2019r parc ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ffurfioli'r olygfa i fyny ac i lawr Cae Cooper o, a thua'r castell fel un o'r prif olygfannau yn y dirwedd a ddyluniwyd.<\/p>\n<p>Mae'r olygfa o Gastell Caerdydd o Gae Cooper, gyda\u2019r casgliad o goed Masarn a Chamelias yn y blaendir a'r t\u0175r cloc yn codi o'r tu \u00f4l i goed aeddfed y parc bellach yn un o ddelweddau eiconig Caerdydd, ochr yn ochr \u00e2 Stadiwm y Mileniwm, Neuadd y Ddinas a Bae Caerdydd.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Cenedlaethol&nbsp; &nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>c) Tirwedd wedi'i Dylunio<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Y gwaith o drefnu Tiroedd y Castell gan Andrew Pettigrew, rhwng 1873 a 1903, yw'r unig enghraifft hysbys o gynllun a ddyluniwyd gan y garddwr uchel ei barch o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hwn. Er gwaethaf absenoldeb unrhyw uwchgynllun sy\u2019n goroesi ar gyfer yr yst\u00e2d, mae cynllun eang y tiroedd heddiw yn adlewyrchu'r strwythur a nodir ar gynllun Arolwg Ordnans 1901 gyda'i nodweddion nodweddiadol o lawntiau eang, clystyrau o goed, ardaloedd coediog a phlannu is-dyfiant.<\/p>\n<p>O ddisgrifiadau o ymweliadau \u00e2 gerddi cyfoes, tanddatganwyd arddull tirwedd Pettigrew, roedd yn wahanol iawn i gynlluniau Fictoraidd uchel canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roedd yn debycach i arddull tirwedd y dylunydd Americanaidd Frederick Law Olmsted, y cyfeiriwyd at ei waith gan Pettigrew yn ei gyflwyniadau ysgrifenedig a llafar ar ddylunio. Mae'r dirwedd yn manteisio ar natur linellol y safle, gan ddefnyddio hyn i'r perwyl gorau drwy'r echelin gref o\u2019r gogledd i\u2019r de, gan arwain at silw\u00e9t dramatig o Gastell Caerdydd yn dominyddu'r gornel dde-ddwyreiniol. Mae presenoldeb camlas gyflenwi'r dociau ar ochr ddwyreiniol y parc yn cynyddu'r byffer naturiol ar hyd ffin y dwyrain, gan leihau a hyd yn oed dileu effaith Heol y Gogledd ar y parc a chreu lle eang, tawel a hardd yng nghanol y ddinas.<\/p>\n<p>Mae'r diffyg unrhyw gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y gerddi wedi\u2019u gadael yn agored i ymyrraeth ac addasiadau trwy dreigl amser ac mae gwrthdaro penodol rhwng y cynllun Fictoraidd hwyr \/ Edwardaidd a chasgliad Gardd Goed mwy diweddar yr ugeinfed ganrif, a sefydlwyd ar ddiwedd y 1940au.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Cenedlaethol&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>ch) Safle\u2019r Brodyr Duon<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae brodordy canoloesol y Brodyr Duon yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Mae'r safle yn un o'r ychydig frodordai canoloesol yng Nghymru lle mae cynllun y safle yn hysbys ac yn cael ei arddangos i raddau helaeth - ac mae'n ail dim ond i Frodordy Hwlffordd yn hyn o beth. Caiff ei arwyddoc\u00e2d ei gynyddu oherwydd y ffaith bod brodordy arall Caerdydd - y Brodyr Llwydion - wedi\u2019i ddatblygu yn y 1960au ac mae bellach o dan 'T\u0175r y Ddinas' ar gornel Heol y Brodyr Llwydion. Safle\u2019r Brodyr Duon yw'r presenoldeb amlycaf yn y parc o hanes sy'n rhagflaenu perchnogaeth Bute o'r castell a'r yst\u00e2d.<\/p>\n<p>Nid yw olion gweladwy\u2019r Brodordy sydd wedi\u2019u hadfer a\u2019u cadw\u2019n rhannol yn ganoloesol, ar \u00f4l cael eu dehongli a'u hadlunio ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg o ganlyniad i waith cloddio archeolegol a wnaed dan gyfarwyddyd Trydydd Ardalydd Bute. Yr adluniad gweladwy hwn sy'n gwneud y safle'n unigryw yng Nghymru, ac mae\u2019n yn un o ddim ond ychydig o safleoedd o'i fath yn y DU. Mae'n ymddangos bod y gwaith o ail-greu cynllun y Brodordy yn dilyn egwyddorion y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol a ffurfiwyd ym 1877 tua'r adeg yr oedd y cloddiadau'n cael eu cynnal.&nbsp;Mae'r ymchwiliadau archeolegol a gynhaliwyd cyn ac yn ystod y gwaith adfer wedi cynyddu dealltwriaeth o'r safle a ddehonglwyd yn sylweddol.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Cenedlaethol&nbsp; &nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>d) Yr Ardd Goed<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Datblygwyd yr Ardd Goed ym Mharc Bute gan Bill Nelmes, Prif Swyddog Parciau, o ddiwedd y 1940au ymlaen. Plannwyd y casgliadau coed mewn grwpiau rhywogaethau, o fewn strwythur tirwedd y parc i ddechrau, er mae'n debyg bod effeithiau cynhyrchu bwyd yr Ail Ryfel Byd wedi symleiddio peth o'r cynllun gwreiddiol. Lleihaodd gwaith plannu yn y 1960au, ond cafodd ei adfywio gyda chynllun rhoi coed yn yr 1980au, pan gafodd y casgliadau eu hymestyn ac roedd y gwaith plannu yn fwy eang.&nbsp;Ychwanegwyd coed newydd i'r casgliadau drwy gydol prosiect adfer Cronfa Treftadaeth y Loteri gan barhau trwy gynllun rhoi coed llwyddiannus yn y cyfnod ar \u00f4l prosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri.<\/p>\n<p>Mae cronfa ddata casgliad coed y safle yn cynnwys dros 4,000 o goed wedi'u catalogio'n unigol, er bod llai yn parhau yn eu lleoliad gwreiddiol. Mae llawer yn brin iawn ac mae'n debyg eu bod yn bodoli ar nifer cyfyngedig o safleoedd yn y DU. Ar hyn o bryd mae 39 o goed campus yn y casgliad<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/statement-of-significance\/#_ftn1\">[1]<\/a>&nbsp;(y lletaf neu'r talaf o'u math yn y DU) - ond nid dyma'r coed hynaf o reidrwydd - mae rhai o'r coed prinnaf a nifer sylweddol o goed campus wedi'u cynnwys o fewn y gwaith plannu mwy diweddar.<\/p>\n<p>Mae'r casgliad yn unigryw mewn parc cyhoeddus. Cafodd ei arolygu yn 2005 gan Dr Owen Johnson o Gofrestr Coed Ynysoedd Prydain, sydd wedi disgrifio'r parc fel '<em>unigryw ymysg y parciau cyhoeddus ym Mhrydain neu Iwerddon am ei gwmpas a\u2019i swm o ddeunydd prin.<\/em> <em>Wedi'i asesu o ran ystadegau'r Gofrestr Goed, mae gan Barc Bute bron bedair gwaith cymaint o Goed Campus \u00e2'i gystadleuydd agosaf ymysg y parciau cyhoeddus ym Mhrydain (Parc y Rhath), a thair gwaith cymaint o goed y nodwyd eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol am statws neu brinder. \u2019<\/em><\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Cenedlaethol&nbsp; &nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Arwyddoc\u00e2d arall<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae elfennau arwyddoc\u00e2d arall Parc Bute i\u2019w gweld isod. Mae'r cyfuniad o'r rhain \u00e2'r elfennau prif arwyddoc\u00e2d yn cynyddu statws Parc Bute o ran ei arwyddoc\u00e2d cyffredinol fel parc trefol o fewn y DU.<\/p>\n<ol>\n<li><strong>a) Hanes y safle<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae'r hanes hwn o'r tir y cyfeirir ato bellach fel Parc Bute wedi'i gysylltu'n agos \u00e2 hanes Caerdydd fel anheddiad. Er na ddarganfuwyd olion Rhufeinig mawr ar y safle, mae'n debygol bod safle'r groesfan afon Rufeinig a'r ffordd gysylltiedig yn gorwedd o fewn y parc.<\/p>\n<p>Parhaodd anheddiad canoloesol ar hyd West Street drwodd i'r ddeunawfed ganrif ac mae wedi'i gofnodi'n dda. Cofnodir aliniad y ffrwd melin, yn gyfochrog ag Afon Taf, a'i choredau, ei physgodfeydd a melinau i gyd. Mae datblygiad y tri lleoliad pont \u2013 pontydd canoloesol, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a symudiadau cydamserol Afon Taf, yn rhoi cipolwg diddorol ar frwydr y dref gyda'r elfennau naturiol.<\/p>\n<p>Gellir gweld atgof o'r cysylltiad ag allforio glo wrth greu camlas gyflenwi\u2019r dociau ar hyd llinell y ffrwd melin, sy'n dal i gyflenwi d\u0175r i ddociau Caerdydd heddiw a chynllun y parc deheuol yw gwaddol y cyfoeth a gr\u00ebwyd gan y diwydiant allforio glo. Mae hyd yn oed cynllun Maes Hamdden y Gored Ddu yn dal i roi cliwiau am ei gwreiddiau amaethyddol.<\/p>\n<p>Mae'r broses o ddatrys hanes y safle yn dal i fynd rhagddi.&nbsp;Mae hyn yn gwneud y safle'n arbennig o werthfawr i haneswyr ac academyddion. Mae hanes y safle wedi cael ei ddehongli drwy brosiect Cronfa Treftadaeth y Loteri ond mae dehongli pellach yn bosib. Gyda\u2019r cliwiau cywir, gellir deall y safle yn hawdd oherwydd nad yw unrhyw beth wedi\u2019i adeiladu ar y parc, ac mae'r mannau yn y safle yn galluogi ymwelwyr i werthfawrogi cysylltiadau'r safle \u00e2 Chastell Caerdydd a'r ffordd y mae wedi datblygu.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Rhanbarthol<\/p>\n<ol>\n<li><strong>b) Archaeoleg Gudd<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae'r diffyg datblygiad adeiledig yn y parc wedi golygu bod llawer o'r archeoleg danddaearol, nad yw byth wedi cael ei hymchwilio'n iawn, yn debygol o fod&nbsp;yn ei lleoliad gwreiddiol. Mae darganfyddiadau Rhufeinig, canoloesol, \u00f4l-ganoloesol ac o\u2019r ddeunawfed ganrif wedi\u2019u darganfod yn y parc, er mai dim ond nifer gyfyngedig o adeileddau sydd wedi'u lleoli a'u cloddio'n rhannol.<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/statement-of-significance\/#_ftn2\">[2]<\/a>. Awgrymodd gwaith arolygu geoffisegol cychwynnol ar hyd llinell ddeunawfed ganrif West Street, a gynhaliwyd yn 2004\/5, fod llawer o'r adeiladau ar y stryd yn dal i fod yn bresennol o dan y ddaear a darganfuwyd tystiolaeth bellach o hyn pan syrthiodd derwen fytholwyrdd aeddfed yn yr ardal gan ddatguddio olion cerrig. Darganfuwyd adeileddau wedi\u2019u claddu arwyddocaol ac eitemau statws uchel na ddarganfuwyd y tu allan i Gastell Caerdydd o'r blaen hefyd yn ystod ymchwiliadau archeolegol a oedd yn gysylltiedig ag ail-lifo Cafn y Felin yn 2013.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Rhanbarthol<\/p>\n<ol>\n<li><strong>c) Adeileddau Adeiledig<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae Parc Bute yn cynnwys nifer o adeileddau adeiledig sy'n dyddio'n \u00f4l i ganol a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac sy'n gysylltiedig \u00e2\u2019r defnydd o\u2019r parc fel tiroedd preifat Castell Caerdydd. Mae'r rhain yn gysylltiedig yn bennaf \u00e2 mynediad i'r tiroedd ac amg\u00e1u\u2019r tiroedd. Mae'r adeileddau hyn yn cynnwys wal eiconig yr anifeiliaid ar hyd y ffin ddeheuol, mynedfa'r porth ym Mhorth y Gorllewin a'r porthdy ei hun, mynedfa'r porth i'r gogledd o Gastell Caerdydd, y wal ffin ar hyd Heol y Gogledd a\u2019r casgliad o dai a hen adeiladau fferm yn Fferm y Gored Ddu. Yn y Gored Ddu, mae'r tai a'r bythynnod bellach mewn perchnogaeth breifat, yn ogystal \u00e2'r porthdy mwyaf gogleddol yn Gabalfa, yng Nghoed Gabalfa.<\/p>\n<p>Mae'r holl adeiladau a\u2019r adeileddau hyn yn arwyddocaol oherwydd eu bod yn helpu i gadw cymeriad 'yst\u00e2d' y parc, gan ei wahaniaethu oddi wrth barciau cyhoeddus eraill yng Nghaerdydd sydd \u00e2 chymeriad mwy trefol. Yn benodol, mae Wal yr Anifeiliaid, er nad oes modd ei gweld o'r tu mewn i'r parc, yn un o ddelweddau mwyaf parhaol Caerdydd, ac mae'n creu ffin ddeheuol unigryw a chyffrous o ap\u00eal gyffredinol.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Lleol&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>ch) Ecoleg a SoBCNau<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Parc yng nghanol y ddinas yw Parc Bute, ond eto mae'n cynnwys nifer o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SoBCNau):<\/p>\n<p><strong>SoBCN 17: Coed Gabalfa <\/strong><\/p>\n<p>Coetir eilaidd gyda Ffawydden <em>(Fagus sylvatica) <\/em>a Gwernen <em>(Alnus glutinosa) <\/em>aeddfed a oedd yn ffinio \u00e2 rhannau isaf Camlas Morgannwg yn wreiddiol ac sydd bellach yn cynnwys Hesgen Bendrom&nbsp;<em>(Carex pendula)<\/em>.<\/p>\n<p><strong>SoBCN 6: Y Gored Ddu a Chamlas Gyflenwi'r Dociau<\/strong><\/p>\n<p>Coetir eilaidd sy'n cael ei reoli fel parcdir addurniadol gyda fflora daear naturiol ac amrywiol ac a gyflwynwyd, a chamlas gyflenwi\u2019r dociau a llystyfiant dyfrffordd cysylltiedig. Mae'r coetir yn cynnal llawer o adar coetir, gan gynnwys Coch y Berllan&nbsp;<em>(Pyrrhula pyrrhula)<\/em>&nbsp;ac mae camlas gyflenwi\u2019r dociau\u2019n cynnal trefedigaeth o Forwynion Tywyll&nbsp;<em>(Calopteryx virgo)<\/em>&nbsp;ger Castell Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhannau gogleddol o <strong>Ardd Goed Parc Bute<\/strong>&nbsp;hefyd wedi'u cynnwys yn y rhestriad hwn, ac maent yn cynnwys gweddillion bach iawn o laswelltir Capiau Cwyr, gan gynnwys y rhywogaeth CGB DU brin y Cap Cwyr Penfrown&nbsp;<em>(Hygrocibe spadicea)<\/em>.<\/p>\n<p><strong>SoBCN 97: Afon Taf<\/strong><\/p>\n<p>Mae'r afon yn bwysig ar gyfer pysgod mudol, Dyfrgwn&nbsp;<em>(Lutra lutra)<\/em>, adar gwyllt a llystyfiant glan afon ac yn gweithredu fel prif goridor bywyd gwyllt, gan ddenu adar sy'n bwyta pysgod fel y Cr\u00ebyr Bach Copog&nbsp;<em>(Egretta garzetta<\/em>), Glas y Dorlan&nbsp;<em>(Alcedo atthis)<\/em>&nbsp;a\u2019r Hwyaden Ddanheddog&nbsp;<em>(Mergus merganser)<\/em>.<\/p>\n<p>Mae'r parc hefyd yn gartref i bob un o'r tair cnocell goed yn y DU, y Gnocell Werdd&nbsp;<em>(Picus viridis)<\/em>, y Gnocell Fraith Fwyaf&nbsp;<em>(Dendrocopos major)<\/em>&nbsp;a'r mwyaf prin y Gnocell Fraith Leiaf&nbsp;<em>(Dendrocopos leiaf)<\/em>, sydd ar 'Restr Goch' 2006 yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau sydd dan fygythiad gan fod eu niferoedd yn gostwng.<\/p>\n<p>Mae'r parc yn cynnal trefedigaethau o Dylluanod Brech&nbsp;<em>(Strix aluco)<\/em>&nbsp;ac ystlumod Lleiaf&nbsp;<em>(Pipistrellus pipistrellus<\/em>)&nbsp;ac ar nosweithiau'r haf, gellir gweld ystlumod Mawr&nbsp;<em>(Nyctalus noctula)<\/em>&nbsp;ac ystlumod y D\u0175r&nbsp;<em>(Myotis daubentonii)<\/em>&nbsp;ar hyd yr afon hefyd.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Lleol&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>d) Defnydd cymunedol, digwyddiadau a ffilmio<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae'r parc yn boblogaidd gyda mynediad i gerddwyr a beicwyr o faestrefi Glan-yr-afon a Threganna i ganol y ddinas, ac mae cownteri wrth fynedfeydd yn dangos bod tua 2,500,000 o bobl yn ymweld \u00e2\u2019r parc bob blwyddyn.<\/p>\n<p>Mae ystafelloedd Te Pettigrew, y T\u0177 Haf a Chaffi\u2019r Ardd Gudd, a ddatblygwyd ac a brydleswyd yn ystod y prosiect adfer, wedi helpu i ddatblygu'r ymdeimlad o gymuned yn y parc yn sylweddol.<\/p>\n<p>Nid yw Parc Bute yn gweithredu fel parc cymunedol traddodiadol, lleol. Mae ganddo ddalgylch o ddefnyddwyr ledled y ddinas, wedi'i ategu gan dwristiaid, gan roi iddo ystod lawer ehangach o ddefnyddwyr nag unrhyw barc arall yng Nghaerdydd a chynyddu ei arwyddoc\u00e2d fel atyniad mawr i ymwelwyr yn y ddinas. Mae Parc Bute wedi'i restru yn y 5 peth gorau i'w gwneud yng Nghaerdydd yn \u00f4l TripAdvisor ers sawl blwyddyn ac mae'n cynnal hyn ar adeg ysgrifennu\u2019r datganiad hwn.<\/p>\n<p>Parc trefol yng nghanol y ddinas yw Parc Bute gyda rhinweddau amgylcheddol i'w gweld yn amlach ar y cyrion trefol neu mewn parc gwledig; fodd bynnag, mae hefyd yn lleoliad pwysig ar gyfer gweithgareddau cymunedol a digwyddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.<\/p>\n<p>Mae Parc Bute yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Codir cyfraddau gwahanol ar y digwyddiadau hyn e.e. ar y gyfradd elusen Haen 1 (elusen is) neu Haen 2 (elusen uwch) neu'r gyfradd fasnachol. Er yn fach o ran nifer (7 o\u2019r 31 digwyddiad neu 22% yn 2023\/24), mae'r digwyddiadau cyfradd fasnachol yn cynhyrchu 80%+ o\u2019r incwm digwyddiadau am y flwyddyn. Gobeithio bod hyn yn dangos bod nifer y digwyddiadau masnachol o fewn y parc ar lefel dderbyniol ond hefyd pa mor hanfodol yw'r digwyddiadau hynny i gydbwyso cyllideb y parc.<\/p>\n<p>Yn 2023\/24 cynhaliodd y parc raglen gynyddol o ddigwyddiadau rhedeg a cherdded elusennol yn cefnogi: Ymchwil Canser Cymru, Big Moose, City Hospice, Cancer Research, Armed Forces Charity, Pride, Krishna Cymru, Alzheimer\u2019s Memory Walk, Canolfan Ganser Felindre, MS Society, Parkinson's UK a Movember.<\/p>\n<p>Mae'r parc hefyd yn lleoliad sy'n boblogaidd ar gyfer ffilmio sy'n cyfrannu swm bach i'r gyllideb flynyddol.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Rhanbarthol<\/p>\n<ol>\n<li><strong>dd) Potensial addysgol<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae potensial addysgol parciau Caerdydd yn cael ei gydnabod a'i hyrwyddo'n gynyddol. Mae gan Barc Bute, yn rhinwedd ei gyfleusterau, ei leoliad, ei rinweddau a'i gysylltiadau \u00e2 hanes Caerdydd, botensial addysgol unigryw yn y ddinas ac yn rhanbarth De Cymru. Mae'r safle a'i ganolfan addysg yn cynnig lleoliad ar gyfer pob lefel o ddysgu: sgiliau sylfaenol, cyflwyno cwricwlwm cenedlaethol, addysg i oedolion, hyfforddiant arbenigol, gwaith cwrs lefel gradd ac ymchwil \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<p>Mae'r ystod eang o them\u00e2u y gellir mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw yn y parc (sgiliau rhifedd ac iaith sylfaenol, cyrsiau ieithyddol, addysg amgylcheddol, gymdeithasol a diwylliannol, hanes, bioleg, daearyddiaeth, ecoleg, botaneg, adareg, archaeoleg, datblygu tirwedd, hyfforddiant rheoli glaswellt m\u00e2n, garddwriaethol, coedyddol, celf, ffotograffiaeth, newyddiaduraeth ac ati) yn gwneud y parc yn arwyddocaol o ran ei botensial addysgol<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Lleol&nbsp;<\/p>\n<ol>\n<li><strong>e) Iechyd a Lles<\/strong><\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae lleoliad hynod hygyrch Parc Bute yng nghanol y ddinas, a'r ffaith ei fod am ddim i fynd i mewn iddo a bod ganddo gynnwys naturiol mor gyfoethog, yn ei wneud yn adnodd Iechyd a Lles delfrydol.<\/p>\n<p>Mae'r parc yn cael ei ddefnyddio'n ffurfiol ac yn anffurfiol mewn ffyrdd sy'n helpu i hyrwyddo iechyd a lles ymwelwyr. Ar yr ochr anffurfiol, mae pobl yn defnyddio'r parc i fynd am dro achlysurol amser cinio ac i eistedd yn dawel ar fainc i wylio'r byd yn mynd heibio, neu\u2019n defnyddio'r llwybr ymarfer corff fel rhan o'u trefn ffitrwydd rheolaidd. Ar yr ochr fwy ffurfiol mae pobl yn chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo eu hiechyd a\u2019u lles ar sail gr\u0175p drwy ymuno ag un o'r sesiynau a gynigir gan staff y parc neu ddarparwyr allanol.<\/p>\n<p>Ein bwriad yw datblygu ymhellach a chodi ymwybyddiaeth o'r teithiau cerdded y mae staff y parc yn eu cynnig. Mae Ceidwad Parc Bute eisoes yn cynnal teithiau cerdded amser cinio misol i staff ym Mhrifysgol Caerdydd.&nbsp;Rydym yn gobeithio datblygu'r farchnad at ddefnydd o'r fath ymhellach a chyrraedd staff y Cyngor ei hun, e.e. drwy annog gweithwyr o Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd i ymuno \u00e2 gr\u0175p cerdded amser cinio ym Mharc Bute.<\/p>\n<p>Cwmpas arwyddoc\u00e2d: Lleol&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/bute-park.com\/statement-of-significance\/#_ftnref1\">[1]<\/a>&nbsp;Nifer y coed campus ym mis Rhagfyr 2019<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/bute-park.com\/statement-of-significance\/#_ftnref2\">[2]<\/a>&nbsp;Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, Mawrth 2001<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Park Bute datganiad o arwyddocad i Barc ButeMae Parc Bute yn un o&#8217;r parciau trefol mwyaf yn y DU, gyda thirwedd yn cynnwys gerddi o\u2019r 19fed ganrif a phlannu yn y de, gerllaw Castell Caerdydd, a chaeau chwaraeon a choetir anffurfiol yn y gogledd. Mae&#8217;r parc nid yn unig yn arwyddocaol yn hanesyddol, ond mae&#8217;r&#8230; <a class=\"view-article\" href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/statement-of-significance\/\">View Statement of significance for Bute Park<\/a>","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-12477","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12477","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12477"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12477\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12492,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/12477\/revisions\/12492"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12477"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}