{"id":7209,"date":"2021-03-29T16:34:55","date_gmt":"2021-03-29T16:34:55","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/event_guide\/castle-access\/"},"modified":"2025-04-22T16:20:22","modified_gmt":"2025-04-22T16:20:22","slug":"mynediad-i-castell-caerdydd","status":"publish","type":"event_guidance","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/mynediad-i-castell-caerdydd\/","title":{"rendered":"Mynediad i Safle Castell Caerdydd"},"content":{"rendered":"\n
Llwybrau gwasanaeth digwyddiadau<\/li>\n\n\n\n
Llwybrau mynediad i\u2019r gynulleidfa i gi\u00e2t ogleddol y castell<\/li>\n\n\n\n
Ardaloedd cynhyrchu cefn t\u0177<\/li>\n\n\n\n
Lleoliad<\/strong><\/strong><\/td>
Trwydded Safle<\/strong><\/td>
Cyflenwad p\u0175er ar y safle<\/strong><\/td>
Dim \u2013 datgomisiyniwyd yn 2017<\/td><\/tr>
Ffi Llogi<\/strong><\/td>
Ar Gais<\/td><\/tr>
Cyflenwad d\u0175r ar y safle<\/strong>
<\/td>
Oes – Yn amodol ar bolisi defnydd teg
6 x lleoliad<\/td><\/tr>
Carthffosiaeth<\/strong><\/td>
Dim
Tanc septig (3,500 galwyn) – datgomisiyniwyd yn 2022<\/td><\/tr>
Toiledau<\/strong><\/td>
Dim
Mae\u2019r cyfleusterau parc agosaf yn Ystafelloedd Te Pettigrew a Chaffi’r Ardd Gudd \u2013 nid ydynt yn addas i’w defnyddio gan y rhai sy’n mynd i’r digwyddiad.<\/td><\/tr>
Llinellau ff\u00f4n\/ISDN<\/strong><\/td>
Dim \u2013 datgysylltwyd yn 2019<\/td><\/tr>
Cysylltiad Data<\/strong><\/td>
Llifogydd<\/strong><\/td>
Mae Cae Cooper yn orlifdir ac er bod afon Taf wedi’i diogelu’n dda gan gynllun amddiffyn rhag llifogydd y 1980au, mae Camlas Gyflenwi\u2019r Dociau ar lefel uwch na Chae Cooper ac mewn tywydd garw iawn gallai orlifo i\u2019r cae. Mae hyn yn llawer mwy tebygol yn ystod misoedd y gaeaf, sy’n rheswm arall pam nad yw digwyddiadau fel arfer ond yn cael eu cynnal o fis Ebrill i fis Medi. Gallai hyn fod yn anodd ei ragweld neu ei atal a gallai arwain at golledion sylweddol oherwydd “Force Majeure” i Drefnwyr Digwyddiadau.<\/td><\/tr>
Cloddio<\/strong><\/td>
Cyn cwblhau eich cais am ddigwyddiad, byddem yn argymell eich bod chi fel Trefnydd Digwyddiadau yn ymchwilio digwyddiadau allweddol yn y ddinas a allai effeithio ar eich digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n
Gallai digwyddiadau mawr yn y ddinas effeithio ar argaeledd a mynediad i’r lleoliad rydych yn ei ffafrio. Mae digwyddiadau yng Nghastell Caerdydd, Stadiwm Principality, Gerddi Sophia Caerdydd (Stadiwm Criced) a Chlwb P\u00eal-droed Dinas Caerdydd yn effeithio’n arbennig ar Gae Cooper a Gerddi Sophia. <\/p>\n\n\n\n
Os yw eich digwyddiad yn debygol o ddenu torfeydd, creu s\u0175n neu aflonyddwch sylweddol, byddai hefyd yn gwrtais i chi roi gwybod i leoliadau cyfagos a thrigolion lleol gan gynnwys y swyddfeydd newydd a’r preswylfeydd ar Heol y Gadeirlan.<\/p>\n\n\n\n
National Express yng Ngerddi Sophia
Mynedfa i Gerddwyr<\/strong><\/td>
Y mynedfeydd agosaf i\u2019r safle hwn o\u2019r parc yw o:
– Bont y Pysgotwr (o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, o\u2019r dwyrain)
– Porth Gogleddol y Castell (o Heol y Gogledd, y Ganolfan Ddinesig, o\u2019r de-ddwyrain)
– Porth y Gorllewin (o Stryd y Castell, o\u2019r de)
– ont y Mileniwm (o Erddi Sophia, o\u2019r gorllewin)<\/td><\/tr>
Cyfyngiadau Cerbyd\/Llwyth<\/strong><\/td>
Mae mynediad cerbydau i’r safle dros y bont gerbydau oddi ar Heol y Gogledd, sydd gyferbyn \u00e2 Corbett Rd. Mae uchafswm pwysau 40 tunnell ar y bont gerbydau.
Mae\u2019r bont gerbydau yn culhau i un l\u00f4n gan ei bod yn croesi Camlas Gyflenwi\u2019r Dociau felly rhaid rheoli traffig sy’n dod i mewn a gadael yn ofalus, gan ddefnyddio mannau pasio ar hyd y ffordd wasanaeth ar gyfer prif ddigwyddiadau tua’r de.
Mae bolard awtomatig ar waith ar y bont gerbydau i atal cerbydau rhag mynd i Barc Bute heb awdurdod. Felly, efallai y bydd angen i chi ofyn am gael benthyg set o ‘gardiau sweipio’ er mwyn gallu rheoli traffig yn ymwneud \u00e2’ch digwyddiad. Gellir cynnwys y cais hwn ar eich ffurflen gais. Gweler yr arweiniad ar ddefnyddio’r system rheoli bolardiau yn ddiogel.
Bydd stiwardiaid\/arolygwyr cerbydau mawr yn hanfodol i reoli eich traffig yn ddiogel. Dylai’r rhain fod mewn cysylltiad radio \u00e2’i gilydd a dilyn gweithdrefnau llym i ddiogelu adeiladwaith y parc a defnyddwyr eraill y parc.
Mae dau fan troi glaswellt si\u00e2p morthwyl ar Gae Cooper – un yn y pen gogleddol ac un yn y pen deheuol yn ogystal \u00e2 dwy gilfan laswellt gyferbyn \u00e2 nhw. Mae’r rhain yn darparu ‘safleoedd caled’ lle gellir troi cerbydau digwyddiadau a’u dadlwytho. Dylid cynllunio a chydgysylltu gweithrediadau i sicrhau mai dim ond hyn a hyn o draffig digwyddiadau sy\u2019n troi ar y safle. Gall peidio \u00e2 gwneud hyn niweidio’r glaswellt yn ddiangen a’ch gadael yn atebol i dalu costau adfer.
Rhaid defnyddio alwminiwm amddiffynnol neu drac plastig i roi mynediad i’r glaswellt i gerbydau sydd \u00e2 llwyth sy’n fwy na phum tunnell.
Dylid defnyddio deunydd gwarchod tir (matiau trac, rhwystrau i gerddwyr neu fariau haearn\/t\u00e2p perygl) mewn ardaloedd sy’n agored i niwed er mwyn atal difrod a achosir gan gerbydau digwyddiadau sy\u2019n mynd ar hyd y llwybrau. Gweler y cynllun safle i gael canllaw.
Mae rhai ardaloedd ‘dim mynediad’ yn gyfagos \u00e2\u2019r safle digwyddiad a rhaid diogelu’r rhain yn gorfforol rhag difrod posibl yn sgil eich digwyddiad, cyfeiriwch at gynllun y safle am arweiniad [coed campus, canop\u00efau coed yn gyffredinol, y Gored Ddu ac ati]
Mae system rheoli bolardiau awtomatig ger Pont Fynediad i Gerbydau Parc Bute. Mae nodyn cyfarwyddyd ar ei ddefnyddio\u2019n ddiogel ar gael.<\/p>\n\n\n\n
Mae cyfyngiad cyflymder 5 mya ar gyfer cerbydau yn y parc<\/p>\n\n\n\n
Ni all cerbydau droi i’r dde i mewn nac allan o’r parc wrth y bont cerbydau<\/p>\n\n\n\n
Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi\u2019r bont fynediad i gerbydau ger mynedfa’r parc \u2013 mae hyn yn effeithio ar hawl dramwy cerbydau wrth fynd i mewn i’r parc a’i adael. Dylai trefnwyr digwyddiadau ystyried sicrhau staff rheoli traffig ychwanegol i gynorthwyo cerbydau sy’n dod i mewn ac yn gadael y parc ar draws y llwybr beicio dynodedig<\/p>\n\n\n\n
Mae llwybr beicio dynodedig yn croesi’r parc rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phont Droed y Mileniwm, sy’n croesi’r prif fynediad i gerbydau i Gae Cooper.<\/p>\n\n\n\n
Gall y parc fod yn brysur. Fe’i defnyddir gan gerddwyr, beicwyr a cherbydau gweithredol eraill. Gallent fod yn rhannu llwybrau a ffyrdd gyda chynulleidfa a cherbydau’r digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n
Mae rhai beicwyr yn mynd yn gyflymach na\u2019r terfyn cyflymder a gallant fod yn berygl i draffig digwyddiadau.<\/p>\n\n\n\n
Mewn tywydd gwlyb gall y tir fynd yn feddal iawn a gall d\u0175r sefyll ar wyneb ffyrdd c ar y glaswellt.<\/p>\n\n\n\n
Mae’r parc yn cael ei gloi yn y nos (tua 30 munud cyn machlud haul) er y gwyddys fod pobl yn dewis cael eu cloi ynddo neu ddod i mewn ar \u00f4l cloi drwy lwybrau answyddogol.<\/p>\n\n\n\n
Gall troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd yno, fel y gellid ei ddisgwyl mewn unrhyw barc yng nghanol dinas.<\/p>\n\n\n\n
Nid oes goleuadau yn y parc ac mae\u2019n dywyll iawn ar \u00f4l machlud yr haul.<\/p>\n\n\n\n
Mae’r parc ehangach y tu allan i safle’r digwyddiad yn cael ei batrolio gan wasanaeth ceidwaid o fewn oriau golau dydd. Maent yn gwisgo gwisg goch ac wedi’u lleoli yn Adeilad y Ganolfan Addysg yng nghanol y parc. Mae’r ceidwaid yn gweithio i system rota ond mae adegau pan nad oes ceidwaid ar ddyletswydd. Os oes angen i chi gysylltu \u00e2 cheidwad, dylech gysylltu \u00e2 Rheolwr y Parc yn y lle cyntaf<\/p>\n\n\n\n
Dylai staff digwyddiadau ffonio 999, 101 (rhif heddlu nad ydynt yn rhai brys) yn uniongyrchol neu swyddfa Rheoli’r Parc 02920 873720 am droseddau, argyfyngau neu ddigwyddiadau a welir yn y parc ehangach, yn dibynnu ar eu natur.<\/p>\n\n\n\n
Mae safle Cae Cooper wedi’i farcio \u00e2 chyfres o \u201cForon” lliw sy’n dangos terfyn allanol y safle a’r ardal gwarchod gwreiddiau (melyn), ceblau BT (coch) a d\u0175r (glas).<\/p>\n\n\n\n
Mae gwasanaethau tanddaearol ar y safle digwyddiadau hwn. Nodir y rhain ar gynllun sylfaen yr ardal ddigwyddiadau, lle bo’n hysbys ond nid yw’r Lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb llawn cynlluniau gwasanaeth. Efallai nad yw gwasanaethau wedi\u2019u claddu ar ddyfnderoedd sy’n cydymffurfio \u00e2’r safonau presennol. Rhaid i chi roi gwybod i swyddfa Rheolwyr y Parc a gofyn am ganiat\u00e2d i dorri unrhyw dir.<\/p>\n\n\n\n
Y Prif Gontractwr sydd yn gyfrifol am wneud cais am chwiliadau RASWA (Deddf Ffyrdd a Gwaith Stryd) cyfredol a nodi presenoldeb gwasanaethau (e.e. sganio CAT) os yw’n bwriadu torri tir yn y Lleoliad neu o’i amgylch. Gall y Lleoliad gael gafael ar chwiliadau RASWA ar gais.<\/p>\n\n\n\n
Nid oes cyfleusterau lles ar y safle ar gyfer staff digwyddiadau ar hyn o bryd. Mae toiledau sydd wedi’u lleoli yng nghaffis y parc ar gael i staff\/cyfranogwyr digwyddiadau at ddefnydd ysgafn yn unig.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-7209","event_guidance","type-event_guidance","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/7209","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/event_guidance"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/7209\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":12721,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/7209\/revisions\/12721"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7209"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}