{"id":6736,"date":"2020-02-04T11:40:08","date_gmt":"2020-02-04T11:40:08","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/event_guide\/structures\/"},"modified":"2021-04-29T16:47:44","modified_gmt":"2021-04-29T16:47:44","slug":"strwythurau","status":"publish","type":"event_guidance","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/strwythurau\/","title":{"rendered":"Strwythurau Datgymaladwy Dros Dros"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae digwyddiadau&#8217;n aml yn cynnwys codi strwythurau dros dro ac mae&#8217;r rhain yn cynnwys risg ac mae angen i Drefnydd y Digwyddiad eu rheoli&#8217;n briodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i bob strwythur dros dro gael ei gynllunio, ei weithgynhyrchu, ei godi a&#8217;i ddatgymalu&#8217;n briodol gan gontractwyr\/dylunwyr cymwys sydd ag adnoddau digonol yn unol \u00e2&#8217;r egwyddorion a nodir yn y ddogfen ganllaw &#8220;<a href=\"https:\/\/www.istructe.org\/resources\/guidance\/temporary-demountable-structures-design-use\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Temporary Demountable Structures<\/a>&#8221; 4<sup>ydd<\/sup>&nbsp;argraffiad a gyhoeddwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i\u2019r person cymwys sy\u2019n gyfrifol am godi pob strwythur gyflwyno tystysgrif diogelwch wedi&#8217;i llofnodi (cymeradwyo) cyn y digwyddiad ar ei gyfer, sy\u2019n dweud bod y strwythur\/strwythurau wedi&#8217;u hadeiladu yn unol \u00e2&#8217;r dyluniad a&#8217;u bod yn ddiogel ac yn addas at y diben.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai fod gan bob digwyddiad gynllun rheoli gwynt sy&#8217;n rhestru cyflymder uchaf y gwynt ar gyfer pob strwythur a&#8217;r camau i&#8217;w cymryd ar 60% ac 80% o uchafswm capasiti&#8217;r llwyth gwynt. &nbsp; Rhaid i&#8217;r cynllun gael ei fonitro gan berson cymwys yn erbyn terfynau gweithredu pob un o&#8217;r strwythurau dros dro. &nbsp; Rhaid cymryd camau effeithiol cyn rhagori ar unrhyw derfynau gweithredu.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.hse.gov.uk\/event-safety\/temporary-demountable-structures.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canllawiau&#8217;r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.hse.gov.uk\/entertainment\/cdm-2015\/worked-examples.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canllawiau\u2019r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch- enghreifftiau<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Strwythurau bychain<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i strwythurau llai, sy\u2019n cynnwys gazebos, stondinau wedi&#8217;u gorchuddio, ambarelau, arwyddion ac ati gael eu diogelu neu eu sadio\u2019n ddigonol. Ni ddylid tanbrisio&#8217;r risg a achosir gan y strwythurau bach hyn achos gall y gwynt effeithio&#8217;n sylweddol arnynt (gwiriwch y cyflymderau gwynt cyfartalog a ragwelir&nbsp;<em>a\u2019r&nbsp;<\/em>cyflymderau gwynt a ragwelir ar gyfer diwrnod y digwyddiad).&nbsp; Rydym yn disgwyl cofnod yn eich asesiad risg sy\u2019n nodi&#8217;r risg hwn ac yn manylu ar eich mesurau lliniaru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pebyll mawr<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer pebyll a phebyll mawr, argymhellir bod y contractwr yn aelod o MUTA neu sefydliad cyfatebol (i gael rhagor o wybodaeth darllenwch y&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.muta.org.uk\/MUTAMembers\/media\/MUTAMembersMedia\/PDFs\/MUTA-s-Best-Practice-Guide,-November-2014.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canllaw Arfer Gorau Defnyddio a Gweithredu Strwythurau Ffabrig Dros Dro Datgymaladwy yn Ddiogel<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Strwythurau Gwynt<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gweler\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/teganau-aer\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cyfarpar Gwynt<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ffeiriau a Difyrion<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gweler\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/ffeiriau-a-difyrion\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Reidiau Ffair a Difyrion<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Stondinau\/Llwyfannau Dros Dro<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen gwneud cais i\u2019r Adran Rheoli Adeiladu ar gyfer Stondinau \/ Llwyfannau Dros Dro a gaiff eu defnyddio gan 20 neu fwy o bobl, dan Adran 27 Deddf Sir De Morgannwg 1976 (mae manylion ar y wefan rheoli adeiladu).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Rhwystrau \/ Ffensys<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid i rwystrau fod yn addas at y diben a gallu gwrthsefyll y pwysau cymhwysol boed hynny gan wynt neu bwysau torf.<\/p>\n\n\n\n<p>Lle disgwylir pwysau gan gynulleidfa e.e. o flaen y llwyfan mewn cyngherddau pop, bydd angen rhwystr blaen llwyfan wedi&#8217;i adeiladu&#8217;n briodol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dogfennau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dylech wneud cop\u00efau o&#8217;r dogfennau ar gyfer eich strwythurau a dylech eu cyflwyno i\u2019r Panel Cyswllt Digwyddiadau.&nbsp; Dylech gyflwyno cyfrifiadau dylunio manwl a lluniadau ar gyfer pob strwythur o flaen llaw a dylent hefyd fod ar gael i&#8217;w harchwilio ar y safle.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai y bydd angen&nbsp;<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/cynllun-y-cam-adeiladu\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cynllun y Cyfnod Adeiladu<\/a>&nbsp;.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r rhestr ganlynol yn cynnwys yr wybodaeth y bydd ei hangen ar y peiriannydd strwythurol sy&#8217;n rhan o&#8217;r Panel Cyswllt Digwyddiadau. Darperir lluniadau a chyfrifiadau dylunio manwl gan gynnwys unrhyw ofynion sadio \/ ffyn a&#8217;r cyflymderau gwynt mwyaf a ganiateir ar gyfer y strwythurau dros dro canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pebyll mawr \u2013 mwy na 25m<sup>2<\/sup><\/li><li>Llwyfannau \u2013 mwy na 25m<sup>2<\/sup><\/li><li>Pob sgrin<\/li><li>Rhwystrau \u2013 Rhwystrau blaen llwyfan, rhwystrau torf cadarn neu baneli rhwyll gyda sgrim.<\/li><li>Nenbontydd a Rigio \u2013 Unrhyw strwythur sydd wedi&#8217;i gynllunio i gynnal goleuadau, uchelseinyddion neu offer uchel arall.<\/li><li>Strwythurau sgaffaldau e.e. llinellau cychwyn\/gorffen ras, arwyddion a rampiau byrddau sglefrio<\/li><li>Stondinau a Llwyfannau Eistedd Cynulleidfa &#8211; Pob Un<\/li><li>Tyrau Llwyfan\/Goleuadau \u2013 Pob Un<\/li><li>Unrhyw strwythur arall \u2013 ar gais<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth benodol am rwystrau, gweler y Canllaw Diogelwch Digwyddiadau (HSG195) a chyhoeddiad Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Canllawiau Strwythurau Dros Dro Datodadwy ar gaffael, dylunio a defnyddio. (Trydydd Argraffiad) (2007).<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ymweliad Safle<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gall Peiriannydd Strwythurol Cyngor Caerdydd fynychu safle i gynnal arolwg gweledol ar y strwythurau dros dro a ddefnyddir yn eich digwyddiad.&nbsp; Mae hwn yn wasanaeth y codir t\u00e2l amdano.&nbsp; Mae hyd at \u00a3180 +TAW o d\u00e2l amser wedi&#8217;i gynnwys yn eich ffi llogi.&nbsp; Rydym yn cadw&#8217;r hawl i godi t\u00e2l arnoch am gostau yr eir iddynt sy\u2019n uwch na\u2019r swm hwn oherwydd methiant i ddarparu set gyflawn o ddogfennau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda&#8217;r swyddog\/lleoliad Panel Cyswllt Digwyddiadau perthnasol.&nbsp; Dylai&#8217;r sawl sydd \u00e2 chyfrifoldeb cyffredinol penodol am strwythurau dros dro fod ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Caiff y gofynion penodol gennych chi o ran strwythurau eu cadarnhau unwaith y deellir eich cynigion penodol eich digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sylwch na chaniateir newid y strwythurau a gynigioch heb ganiat\u00e2d o flaen llaw a chael y gwaith papur perthnasol. Cyfrifoldeb Trefnydd y Digwyddiad fydd diogelwch a sicrhau y bodlonir gofynion rheoleiddiol yn y pen draw.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6736","event_guidance","type-event_guidance","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6736","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/event_guidance"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6736\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7034,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6736\/revisions\/7034"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6736"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}