{"id":6732,"date":"2020-04-14T14:44:05","date_gmt":"2020-04-14T14:44:05","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/event_guide\/site-supervisor\/"},"modified":"2021-04-29T16:30:17","modified_gmt":"2021-04-29T16:30:17","slug":"goruchwylydd-safle","status":"publish","type":"event_guidance","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/goruchwylydd-safle\/","title":{"rendered":"Goruchwylydd  Safle"},"content":{"rendered":"\n<p>Gall Rheolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau benodi Goruchwylydd Safle i oruchwylio gweithgareddau eich digwyddiad ar y safle ac i ddiogelu buddiannau Adran y Parciau a&#8217;r Cyngor.&nbsp; Bydd Rheolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau yn penderfynu a fydd gofyn cael Goruchwyliwr Safle y Cyngor wrth asesu eich cais, ond fel arfer bydd angen un ar bob digwyddiad gydag unrhyw seilwaith, gweithgareddau neu symudiadau cerbydau sylweddol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn i ni drefnu\u2019r staff angenrheidiol ar gyfer eich digwyddiad mae&#8217;n hanfodol eich bod yn rhoi drafftiau rhesymol gywir i ni o&#8217;ch\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/cynllun-y-safle\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cynllun<\/a><a href=\"https:\/\/bute-park.com\/event_guide\/site-plan\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> Safle<\/a>\u00a0a\u2019ch\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/amserlen\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Amserlen Gynhyrchu a Rhestr Gerbydau<\/a>\u00a0cyn gynted \u00e2 phosibl. Bydd eu hangen arnom i asesu&#8217;r amseroedd a&#8217;r diwrnodau y bydd angen Goruchwylydd Safle drwy gydol eich cyfnod llogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Goruchwylydd y Safle yn rhoi cymorth logistaidd ar y safle i chi e.e. datgloi gatiau&#8217;r lleoliad, rhoi mynediad i\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/pwer\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">B\u0175er<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/dwr\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">D\u0175r<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/arwyddion-modd-digwyddiadau\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Arwyddion<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/baneri-heras\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">baneri heras<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/track-mats\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">matiau trac<\/a>\u00a0a.y.b. Bydd yn ddolen gyswllt ar y safle rhyngoch a Rheolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau i ddatrys problemau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Goruchwylydd y Safle hefyd yn gyfrifol am gynnal yr arolygiad safle cyn ac ar \u00f4l y digwyddiad a darparu tystiolaeth i Reolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau er mwyn i hwnnw asesu a fydd angen gwneud didyniadau o&#8217;ch&nbsp;<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/bond\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">bond<\/a>&nbsp;.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">R\u00f4l Goruchwylydd y Safle a&#8217;n disgwyliadau:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sleidiau Sefydlu Safle Parc Bute<\/li><li>Sleidiau Sefydlu Safle Gerddi Sophia;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Taliadau<\/h3>\n\n\n\n<p>Sylwer y codir t\u00e2l am wasanaethau (oni chytunir fel arall).&nbsp; Byddwch yn cael eich anfonebu am gost Goruchwylydd y Safle (o leiaf 4 awr o alwad allan) ar \u00f4l eich digwyddiad yn seiliedig ar y taflenni amser a gyflwynir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table aligncenter\"><table><tbody><tr><td class=\"has-text-align-center\" data-align=\"center\">   <strong>Diwrnod<\/strong><\/td><td>6am &#8211; 8pm  <\/td><td>\n  <strong>\u00a316.36<\/strong>\n  <\/td><\/tr><tr><td class=\"has-text-align-center\" data-align=\"center\"><strong>Gyda\u2019r nos<\/strong><\/td><td>8pm &#8211; 6am<\/td><td>\n  <strong>\u00a321.17<\/strong>\n  <\/td><\/tr><tr><td class=\"has-text-align-center\" data-align=\"center\"> <strong>Penwythnos<\/strong><\/td><td>Hanner nos, nos Wener tan hanner nos, nos Sul   <\/td><td>\n  <strong>\u00a323.60<\/strong>\n  <\/td><\/tr><tr><td class=\"has-text-align-center\" data-align=\"center\">   <strong>G\u0175yl y Banc<\/strong> <\/td><td>Hanner nos, nos Sul tan hanner nos, nos Lun   <\/td><td>\n  <strong>\u00a330.90<\/strong>\n  <\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p>Os yw eich digwyddiad yn mynd yn hirach na&#8217;r amserlen a gyflwynoch, neu os gadewch offer ar y safle i&#8217;w gasglu y diwrnod canlynol (toiledau, rhwystrau\/ffensys ac ati), neu os yw hi&#8217;n mynd yn rhy hwyr i wneud archwiliad safle\/trosglwyddiad terfynol boddhaol, byddwch yn cael eich bilio am yr oriau ychwanegol sy&#8217;n angenrheidiol (o leiaf 4 awr) i\u2019r Goruchwylydd Safle ddychwelyd y diwrnod canlynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn argymell eich bod yn sicrhau bod cynrychiolydd addas o d\u00eem eich digwyddiad yn cwblhau&#8217;r ffurflen derfynol gyda Goruchwylydd y Safle pan fo\u2019r&nbsp;<em>holl<\/em>&nbsp;weithgareddau a\u2019r casgliadau wedi eu cwblhau, gan y bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei defnyddio i benderfynu pa ddidyniadau, os o gwbl, y bydd angen eu cymryd o\u2019ch&nbsp;<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/bond\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">bond<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Digwyddiadau bach<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar gyfer digwyddiadau llai, gwnewch drefniadau ynghylch&nbsp;<a href=\"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/mynediad\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">mynediad i safle eich digwyddiad<\/a>&nbsp;cyn eich digwyddiad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd staff Parc Bute neu Geidwad Parc Bute yn ymweld \u00e2 chi a bydd yn sicrhau bod ein telerau ac amodau llogi yn cael eu cynnal, ac yn rhoi cyngor a chymorth i chi ar y safle.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6732","event_guidance","type-event_guidance","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6732","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/event_guidance"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6732\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6732"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}