{"id":6670,"date":"2020-02-07T11:11:10","date_gmt":"2020-02-07T11:11:10","guid":{"rendered":"https:\/\/app-cprd-butepark.azurewebsites.net\/event_guide\/care-of-trees\/"},"modified":"2021-02-25T12:21:22","modified_gmt":"2021-02-25T12:21:22","slug":"gofalu-am-goed","status":"publish","type":"event_guidance","link":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/event_guide\/gofalu-am-goed\/","title":{"rendered":"Gofalu am goed ym Mharciau Caerdydd"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Parc Bute yn dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ac yn arboretwm o bwys cenedlaethol, helpwch ni i&#8217;w ddiogelu. Rydym wedi darparu&#8217;r canllawiau canlynol i&#8217;ch helpu i wneud hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Caerdydd yn cadw\u2019r hawl i gyflwyno dirwyon i Drefnwyr Digwyddiadau am unrhyw ddifrod a achosir i&#8217;r coed o ganlyniad i&#8217;w digwyddiad. Gall y dirwyon hyn fod yn sylweddol ac ni ellir eu negodi, dylech eu hosgoi drwy ddilyn y canllawiau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylech friffio staff eich safle ar y wybodaeth hon a dylai&#8217;r daflen hon fod ar gael er gwybodaeth ar y safle.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae gorchudd coeden yn rhoi syniad o hyd a lled ardal ei gwreiddiau. Bydd cywasgu&#8217;r parth hwn yn raddol yn mygu&#8217;r goeden wrth i bocedi aer gael eu gwasgu allan o&#8217;r pridd. Am y rheswm hwn,&nbsp;<strong>ni chewch barcio unrhyw gerbydau na deunyddiau trwm eraill o dan orchudd unrhyw goeden<\/strong>. Os ydych yn dymuno gwneud cais i gael storio o dan orchudd coed i gynorthwyo&#8217;ch digwyddiad, rhaid trafod hyn o flaen llaw gyda Rheolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau a fydd yn penderfynu fesul achos.<\/li><li>Er mwyn osgoi tyllu prif wreiddyn y gellid ei hollti neu ei heintio ac achosi i goeden ddirywio,&nbsp;<strong>nid ddylid gosod unrhyw byst yn y ddaear o dan unrhyw orchudd coeden<\/strong>.<\/li><li>Am yr un rheswm &nbsp;<strong>ni chewch dorri ffosydd, cloddio na newid lefelau&#8217;r ddaear o dan orchudd unrhyw goed.<\/strong><\/li><li>Er mwyn osgoi difrodi ein coed ac atal heintio cunrhyw glwyf coeden,&nbsp;<strong>nid chaniateir tocio coed na llwyni<\/strong>. Yn gyffredinol, bydd Cyngor Caerdydd yn gwrthod unrhyw gais o&#8217;r fath, ond mewn achosion eithriadol bydd yn caniat\u00e1u i berson awdurdodedig wneud hyn. Os oes angen tocio coed i hwyluso eich digwyddiad, e.e. canghennau crog isel sy&#8217;n rhwystro cerbydau nwyddau trwm, rhaid i chi ofyn am hyn o flaen llaw gan Reolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau.<\/li><li>Er mwyn osgoi llygru&#8217;r parth gwreiddiau<strong>, ni fydd unrhyw gemegau na thanwydd ac ati yn cael eu pentyrru na&#8217;u storio o dan orchudd unrhyw goeden<\/strong>. Rhaid defnyddio hambyrddau diferu o dan eneraduron.&nbsp;&nbsp;<\/li><li>Er mwyn osgoi llosgi neu lygru&#8217;r parth gwreiddiau,&nbsp;<strong>ni chaniateir gosod pibellau nwy llosg gwresogyddion, generaduron ac ati o dan orchudd unrhyw goeden<\/strong>. Bydd pob pibell nwy llosg yn cael ei chyfeirio oddi wrth orchuddion coed.<\/li><li>Er mwyn osgoi difrod t\u00e2n ac osgoi llygru&#8217;r parth gwreiddiau,&nbsp;<strong>ni chaniateir coginio na thanau o dan orchudd unrhyw goeden<\/strong>.<\/li><li>I barchu ein coed ac osgoi eu difrodi,&nbsp;<strong>rhaid i chi beidio ag atodi unrhyw beth at goeden.<\/strong>&nbsp;Ni ddylech hoelio na gosod posteri \u00e2 phinnau ar goed na rhwymo posteri o amgylch coed \u00e2 llinyn. Os ydych yn dymuno atodi unrhyw beth at goeden neu grogi rhywbeth oddi arni, e.e. goleuadau, arwyddion, addurniadau ac ati, rhaid trafod a chytuno ar hyn ymlaen llaw gyda Rheolwr Digwyddiadau&#8217;r Parciau.<\/li><li>Os yw eich digwyddiad yn gofyn am symud cerbydau neu offer wrth ymyl coeden, efallai y bydd angen defnyddio mesurau diogelu coed lleol i&nbsp;<strong>wahanu&#8217;r goeden\/coed yn gorfforol oddi wrth y perygl<\/strong>. Gweler yr enghraifft isod.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"600\" height=\"462\" src=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/Care-of-trees-in-Cardiff-parks.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4899\" srcset=\"https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/Care-of-trees-in-Cardiff-parks.jpg 600w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/Care-of-trees-in-Cardiff-parks-250x193.jpg 250w, https:\/\/bute-park.com\/wp-content\/uploads\/Care-of-trees-in-Cardiff-parks-120x92.jpg 120w\" sizes=\"auto, (max-width: 600px) 100vw, 600px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Bydd unrhyw fesurau amddiffynnol o amgylch coed yn parhau i fod yn eu lle drwy gydol y digwyddiad ac ni ch\u00e2nt eu tynnu na&#8217;u hadleoli. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan Oruchwylydd y Safle.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae coed aeddfed a phrin yn bethau na ellir rhoi rhai eraill yn eu lle, a rhaid gofalu amdanynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn safleoedd arboretwm fel Parc Bute a Pharc y Rhath. Cyfeiriwch at ganllawiau penodol ar safleoedd lleoliadau i weld unrhyw gyfyngiadau lleol ychwanegol.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6670","event_guidance","type-event_guidance","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6670","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance"}],"about":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/event_guidance"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/event_guidance\/6670\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/bute-park.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6670"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}