HYSBYSIAD GWYBODAETH YMLAEN LLAW – Cyfle Masnachol yng Nghaffi’r Ardd Gudd, Parc Bute
Cyhoeddwyd 25th Mai, 2023- Bydd y ddogfen dendro lawn yn cael ei chyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
- Yn y cyfamser, gallwch gofrestru eich diddordeb yma: (WA Ref:131238).
- Darperir manylion Hysbysiad Gwybodaeth Flaenorol yn y cyfamser.
Beth yw’r cyfle?
Ar ôl dod â’r brydles flaenorol i ben, mae Cyngor Caerdydd am gynnig marchnata math newydd o gytundeb rheoli ar gyfer Caffi’r Ardd Gudd, Parc Bute. Bydd Cyngor Caerdydd yn gwahodd ceisiadau gan ddarpar weithredwyr dros yr haf.
Nod
Mae Parc Bute yn barc treftadaeth restredig gradd 1 ac yn ardd goed o bwys cenedlaethol, yn agos at ganol Caerdydd. Mae’n atyniad i ymwelwyr o fewn y ddinas ac yn elwa o dros 2.6m o ymweliadau bob blwyddyn. Mae’r proffil ymwelwyr yn cynnwys pobl leol reolaidd, myfyrwyr prifysgol, yn ogystal â thwristiaid. Mae’r parc yn elwa ymhellach ar raglen ddigwyddiadau poblogaidd gydol y flwyddyn a gwerthiant planhigion rheolaidd o siop blanhigion Parc Bute gerllaw.
Y nod yw sicrhau gweithredwr fydd yn darparu’r gwasanaeth cyffredinol gorau i ymwelwyr y parc.
Bydd buddion posib i ymwelwyr mewn parc yn ogystal â defnyddwyr Canolfan Ymwelwyr cyfagos Parc Bute yn cael eu hystyried. Bydd amcanion corfforaethol y Cyngor ei hun hefyd yn cael eu hystyried.



Penawdau’r telerau
Byddai’r cytundeb cyfreithiol yn cynnwys cytundeb rheoli gyda phrydles gysylltiedig.
- Tymor 5 mlynedd â photensial i ymestyn
- Caffi parc gyda masnachu allanol a lle eistedd
- Cyfle i ddarparu arlwyo i ddefnyddwyr Canolfan Ymwelwyr
- Rhent canllaw isafswm cystadleuol
- Dŵr am ddim, nwy a thrydan (gwasanaethau ar fesurydd, hyd at £15k y flwyddyn cap defnydd teg)
- Isafswm o 7 diwrnod, gofynion amser masnachu gydol y flwyddyn
- Dim ardrethi busnes yn daladwy
- Dim tâl am ffioedd cyfreithiol/contract cynghorau
- Cwsmeriaid / rheoli toiledau cyhoeddus a chyfrifoldebau glanhau
Sut i wneud cais
Bydd manylion llawn y cytundeb yn cael eu cyhoeddi ar-lein. Unwaith y bydd yn fyw, bydd hyn yn cael ei hysbysebu ymhellach ar y safle, ar-lein a thrwy roi hysbysiad i gysylltiadau yn y diwydiant. Bydd cyfle hefyd i fynychu noson agored i weld y safle a siarad yn anffurfiol gyda’r tîm rheoli.
I wneud datganiad anffurfiol o ddiddordeb cofrestrwch ar y porth caffael “GwerthwchiGymru” sy’n cadarnhau eich awydd i fynychu’r noson agored a darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani yn y tab “Cwestiynau”. Yna bydd rhagor o fanylion am y dyddiad yn cael eu darparu.
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau yn gysylltiedig â chofrestru eich diddordeb cysylltwch â jordan.evans2@caerdydd.gov.uk
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/05/2023
Gweld rhagor o’r blog...
- HYSBYSIAD GWYBODAETH YMLAEN LLAW – Cyfle Masnachol yng Nghaffi’r Ardd Gudd, Parc Bute
- Digwyddiadau Haf Castell Caerdydd, Cynlluniwch Ymlaen Llaw: Cau clwydi y tu ôl i Gastell Caerdydd yn ysbeidiol
- Parc Bute yn ‘Plannu ‘Nôl yn Well’ gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd
- Coroni Tîm Parc Bute y gorau yn y DU
- Perllan Gymunedol Parc Bute