CEIDWAD PARC BUTE
Cyhoeddwyd 12th Gor, 2023Mae Parc Bute yn gyrchfan fawr i ymwelwyr ac yn barc poblogaidd yng nghanol y ddinas. Mae’r parc yn cael dros 2.5 miliwn o ymweliadau y flwyddyn ac mae’n cynnal calendr prysur o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Mae’r parc yn uchel ei barch ac mae ganddo Wobr Baner Werdd. Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y rôl Ceidwad Parc Bute yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute. Mae’r rôl hon yn rhan o Dîm Rheoli dynodedig y Parc.

Mae Ceidwad Parc Bute yn darparu gwasanaeth rheng flaen i ddefnyddwyr y parc i sicrhau bod eu hymweliad yn ddiogel ac yn bleserus. Bydd gennych wybodaeth dda am fioamrywiaeth a bywyd gwyllt y DU i gefnogi eich rôl. Byddwch yn arwain y gwaith o nodi cyfleoedd ar gyfer gwella cadwraeth a chynefinoedd a gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr a gwirfoddolwyr i wneud gwaith ymarferol.
Mae gweithio fel Ceidwad Parc Bute ymroddedig yn gyfle gwych i unigolyn talentog sy’n angerddol am natur a’r awyr agored.
Gradd: 04 (£19,698 – £21,748)
Mae Tîm Parc Bute yn edrych i gyflogi 2 Geidwad (llawn amser) yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute, CF10 3DX.
Amser dechrau: 8am
Mawrth i Sadwrn – 5 diwrnod
Sul i Iau – 5 diwrnod Mawrth
Mae Mercher a Iau’n gorgyffwrdd i ganiatáu gweithio gyda’i gilydd ar dasgau penodol
Byddwch yn cael gwisg benodol, ffôn clyfar a radio.
Os hoffech gael disgrifiad swydd a manyleb bersonol neu sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â parcbute@caerdydd.gov.uk
Gweld rhagor o’r blog...
- HYSBYSIAD GWYBODAETH YMLAEN LLAW – Cyfle Masnachol yng Nghaffi’r Ardd Gudd, Parc Bute
- CEIDWAD PARC BUTE
- Digwyddiadau Haf Castell Caerdydd, Cynlluniwch Ymlaen Llaw: Cau clwydi y tu ôl i Gastell Caerdydd yn ysbeidiol
- Parc Bute yn ‘Plannu ‘Nôl yn Well’ gyda rhagor o goed a pherllan gymunedol newydd
- Coroni Tîm Parc Bute y gorau yn y DU