Digwyddiadau Haf Castell Caerdydd, Cynlluniwch Ymlaen Llaw:  Cau clwydi y tu ôl i Gastell Caerdydd yn ysbeidiol

Cyhoeddwyd 17th Mai, 2023

Er mwyn hwyluso tymor gwych o ddigwyddiadau’r haf yng Nghastell Caerdydd, bydd ardal fechan o Barc Bute, y tu ôl i Borth y Gogledd, yn cael ei chau am gyfnodau byr dros yr haf. Bydd y rhan fwyaf o’r parc yn parhau i fod yn hygyrch bob amser.

Gall ymwelwyr â Pharc Bute fwynhau’r safle yn y ffordd arferol ond cynlluniwch ymlaen llaw.

Bydd tarfu ysbeidiol ar hyd y llwybrau a ddangosir. 

Bydd arwyddion i’w gweld a gwyriadau ar waith i darfu cyn lleied â phosibl a rhoi cymaint o rybudd â phosibl am unrhyw newidiadau i fynediad i’r parc.

Defnyddiwch lwybrau amgen pan fydd llwybrau a gatiau ar gau.

Edrychwch ar arwyddion cynhyrchwyr ar y safle am y wybodaeth ddiweddaraf a dilynwch gyfarwyddiadau stiwardiaid y digwyddiadau.

Bydd yr ardaloedd sydd wedi’u lliwio’n oren a choch ar y map gerllaw yn cael eu cau er diogelwch y cyhoedd ar y dyddiadau canlynol:

Mae Parc Bute yn dirwedd hanesyddol restredig Gradd 1 ac yn Ardd Goed o bwys cenedlaethol.

Er mwyn hwyluso’r digwyddiad a diogelu’r coed yn ein casgliad, o fewn yr ardal oren ar y map byddwch yn sylwi ein bod wedi gosod Ffensys Diogelu Coed mewn arddull newydd.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am Ardd Goed Parc Bute, ein; Coed Nodedig, Coed Campus, Llwybrau Coed.

Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog ac mae digwyddiadau o’r math hwn yn chwarae rhan bwysig wrth ddenu ymwelwyr i’r ddinas a chefnogi’r economi leol, yn ogystal â darparu incwm hanfodol a ddefnyddir i gynnal y parc a gwarchod y Castell hanesyddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra yn ystod y cyfnod hwn. 

Ewch i wefan Castell Caerdydd am fanylion llawn y rhaglen ddigwyddiadau: www.cardiff-castle.com/events

Dylid anfon unrhyw sylwadau neu adborth at castellcaerdydd@caerdydd.gov.uk